Newyddion

Opera Cenedlaethol Cymru: Y Genhedlaeth Nesaf

19 Mehefin 2026

Wedi’i sefydlu dros ugain mlynedd yn ôl fel grŵp galw heibio i bobl ifanc ar Ystad y Gurnos ym Merthyr Tudful, mae Opera Ieuenctid Opera Cenedlaethol Cymru, sy’n flaenllaw yn y diwydiant ac wedi ennill gwobrau, wedi cefnogi talentau cannoedd o bobl ifanc o bob cwr o Gymru a thu hwnt.

Fel cwmni opera cenedlaethol Cymru, rydym yn ymwybodol fod magu hyder a chymuned i bobl ifanc yn cael effaith sylweddol ar eu bywydau. Mae ymchwil gan y Gynghrair Dysgu Diwylliannol yn dangos bod pobl ifanc sy’n cymryd rhan mewn rhaglenni celfyddydol strwythuredig yn fwy tebygol o ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd a gweld effeithiau cadarnhaol ar eu hyder, llesiant, creadigrwydd a hunan-reolaeth. Rydym yn credu - ac yn buddsoddi - yn y genhedlaeth nesaf ac wedi creu llwybrau er mwyn i artistiaid ifanc ffynnu.

Yn ddiweddar, dathlodd WNO ei ben-blwydd yn 80 oed ac rydym eisoes yn cynllunio ar gyfer yr 80 mlynedd nesaf. Felly, buom yn siarad ag aelodau presennol ein Opera Ieuenctid am eu profiadau o fod yn rhan o’r Cwmni, yr effaith y mae wedi ei chael arnynt, a’u gobeithion ar gyfer y dyfodol.

Dechreuodd Billie, 16, o Lanharan, berfformio yn ystod ei chwrs TGAU Drama, lle syrthiodd mewn cariad â bod ar y llwyfan a chanu. Cafodd ei hannog i roi cynnig ar Opera Ieuenctid WNO gan ei mam a’i ffrind, ac mae wedi mynd o nerth i nerth ac wedi perfformio sawl tro yn ein cynyrchiadau Opera Ieuenctid.

“Rwy’n credu ei fod wedi fy helpu gyda fy hyder oherwydd pan ddechreuais, dim ond eisiau bod yn rhan o’r ensemble oeddwn i, ond mae Dan a Siân (Cyfarwyddwr Cerdd ac Arweinydd– Dan Perkin, Cyfarwyddwr Llais Siân Cameron) yn eich annog i fynd am yr unawdau,” meddai Billie.

“Mae Opera Ieuenctid wedi fy helpu i. Yn amlwg, mae’n eich helpu gyda’ch canu a’ch sgiliau, ond mae’r gefnogaeth a gewch yn eich helpu chi hefyd."

Mae profiad Billie gyda ni yn adlewyrchu’r buddion a welwn yn uniongyrchol gydag ieuenctid yn cymryd rhan yn y celfyddydau. Dengys ymchwil fod 76% o bobl ifanc yn teimlo bod y celfyddydau a gweithgareddau diwylliannol yn gwella eu hyder, tra bod 73% yn credu eu bod yn helpu i ddatblygu sgiliau a fydd yn ddefnyddiol mewn gyrfaoedd yn y dyfodol, gan gynnwys cyfathrebu, gwaith tîm a datrys problemau yn greadigol.

Ymunodd Lucy, 12, o Gasnewydd, ag Opera Ieuenctid WNO ar ôl i’w hathro canu ei hannog i fynd i glyweliad am ran yn ein cynhyrchiad o Tosca. Syrthiodd mewn cariad ag opera yn sydyn iawn a dywedodd mai gallu perfformio gyda’r Opera Ieuenctid yw profiad gorau ei bywyd hyd yma: “Ar y diwrnod cyntaf, roedd pawb mor garedig a hyfryd. Ac roeddwn i wrth fy modd â’r gerddoriaeth oedd gennym y diwrnod hwnnw, felly roeddwn i’n meddwl, rydw i am ddod yn ôl!”

Mae Lucy wedi gwneud ffrindiau ers ymuno, ac mae wrth ei bodd yn cael bod yn rhan o grŵp lle mae pawb yn rhannu ei hangerdd dros gerddoriaeth a pherfformio.

Mae cyn-aelodau o Opera Ieuenctid WNO wedi symud ymlaen i yrfaoedd llwyddiannus yn y celfyddydau ar hyd a lled y byd. Ymhlith ein cyn-aelodau mae gennym enillydd Gwobr Olivier, prif artistiaid gyda chwmnïau opera yn y DU a rhai rhyngwladol, gan gynnwys un o ffefrynnau WNO Natalya Romaniw, ac artistiaid sy’n gweithio yn y West End. Ar ôl canfod ei chariad at opera drwy’r Opera Ieuenctid, mae Lucy erbyn hyn yn gobeithio dilyn eu camre a dod yn gantores opera broffesiynol, gan ddefnyddio Opera Ieuenctid fel carreg gamu yn yr uchelgais hwnnw.

“Rwyf wirioneddol eisiau bod yn gantores opera broffesiynol, mynd ar fwy o deithiau opera a gwneud opera drwy gydol fy mywyd,” meddai. “Mae bod yn rhan o Opera Ieuenctid WNO yn gyfle gwych oherwydd bod cymaint y gallwch ei wneud ag ef ac mae’n hwyl ac yn anhygoel."

Cyn aelod Opera Ieuenctid Natalya Romaniw yn rol Tosca

Mynychodd Luke, 17, o Gaerdydd, Opera Ieuenctid WNO am y tro cyntaf pan oedd yn dal yn yr ysgol gynradd. Drwy WNO, mae wedi cael ei gyflwyno i gerddoriaeth gerddorfaol a chlasurol, ac wedi meithrin gwir gariad at theatr ac opera, ac mae’n frwd dros gyfansoddi.

”Dylai pobl ymuno ag Opera Ieuenctid; ni ddylent fod ofn rhoi cynnig arno,” meddai Luke. “Rwy’n cofio pan glywais amdano gyntaf, roeddwn yn meddwl ei fod yn uchel ei fri, ac na fyddwn i’n ddigon da, ond yna ymunais ac mae pawb mor gyfeillgar.”

Yn bwysicaf oll, mae Opera Ieuenctid WNO wedi rhoi’r hyder i Luke herio’i hun, profi pethau newydd a dilyn ei ddiddordebau mawr yn llwyr. O ganlyniad, mae wedi mynd ymlaen i ennill sawl cystadleuaeth genedlaethol am ei gyfansoddiadau ac wedi creu darn wedi’i gomisiynu i gefnogi Tŷ Hafan hyd yn oed.

Yn ddiweddar, cymerodd Luke ran yn sesiwn tynnu lluniau ein tymor newydd gyda’r gweithwyr creadigol adnabyddus sydd wedi’u lleoli yng Nghymru, Charlotte James a Clémentine Schneidermann yn Bleak Fabulous.

“Roeddwn i’n nerfus iawn i’w wneud,” meddai Luke. “Ond mae bod yn rhan o Opera Ieuenctid WNO, a’r hyn rwy’n cael ei wneud o ganlyniad, bob amser yn brofiad cyffrous, hwyliog sy’n rhoi hwb i fy hyder.”

Gyda phobl ifanc fel Billie, Luke a Lucy, rydym yn gwybod bod dyfodol opera yng Nghymru yn llawn potensial a thalent, ac rydym yn edrych ymlaen at eu gweld yn parhau i ddysgu, tyfu a datblygu. Nhw yw’r genhedlaeth nesaf o artistiaid o Gymru.