Pwy yw Hildegard von Bingen?
Abades Fenedictaidd. Polymath. Cyfansoddwr. Gweledydd. Eicon.
Wedi’i geni yn 1098 yn Bermersheim yn Rhineland, roedd Hildegard von Bingen yn byw o fewn byd gwrywaidd iawn yr Eglwys ganoloesol. Ac eto, daeth yn un o’i lleisiau mwyaf nodedig a dylanwadol.
A hithau’n gyfansoddwraig, yn fardd, diwinydd, pregethwr, athronydd a gweledydd naturiol, sefydlodd Hildegard ddwy fynachlog, gan gyfathrebu gyda phabau, esgobion a’r Ymerawdwr Frederick Barbarossa, gan herio clerigwyr pwerus a phregethu’n gyhoeddus ar adeg pan mai prin iawn y caniatawyd i ferched gael y fath awdurdod.
Gweledigaethau
Cafodd bywyd Hildegard ei llunio gan weledigaethau.
Dywedodd ei bod wedi’u profi ers ei phlentyndod. Yn ddiweddarach yn ystod ei bywyd, disgrifiodd ei bod yn eu gweld o fewn yr hyn roedd hi’n ei alw’n Gysgod y Goleuni Byw (umbra viventis lucis), profiad wnaeth barhau’n ganolog i’w bywyd ysbrydol a chreadigol.
Am nifer o flynyddoedd, roedd yn gyndyn o siarad yn agored am yr hyn a welodd. Byddai’n ymddiried yn Jutta a Sponheim, meudwy crefyddol a’i mentor cynnar, a ddaeth yn ffigwr pwysig ym mywyd crefyddol Hildegard.
Yn 1141, a hithau’n ddeugain a thair blwydd oed, profodd Hildegard y weledigaeth a fyddai’n newid ei bywyd. Disgrifiodd glywed orchymyn dwyfol:
“Dywed ac ysgrifenna’r hyn rwyt yn ei weld a’i glywed.”
Dechreuodd gofnodi ei gweledigaethau, ac yn y diwedd, cynhyrchodd Scivias - sy’n golygu “Gwybod y Ffyrdd” - ei gwaith diwinyddol mawr cyntaf. Ynddo, mae’n dogfennu ac yn dehongli ei gweledigaethau ochr yn ochr â’i phruderon, ei hansicrwydd a’i hymdrechion i’w gwneud yn gyhoeddus.
Byddai’r profiadau hynny’n parhau i fod yn sail i gorff rhyfeddol o ddiwinyddiaeth, barddoniaeth, delweddaeth a cherddoriaeth.
Y Byd Naturiol
Byddai Hildegard hefyd yn ysgrifennu’n helaeth am blanhigion, anifeiliaid, y corff dynol, meddygaeth a’r byd naturiol.
Yn Physica, aeth ati i gatalogio’r nodweddion a defnyddiau canfyddedig cannoedd o blanhigion, coed, anifeiliaid, mwynau a sylweddau naturiol eraill, gan dynnu ar draddodiadau dysgedig canoloesol a gwybodaeth ymarferol sydd ar gael o fewn bywyd mynachaidd.
Syniad oedd yn ailgodi drwy gydol ei hysgrifennu oedd viriditas - sy’n aml yn cael ei gyfieithu fel “gwyrddni”. Mae’r cysyniad yn cysylltu bywiogrwydd a ffrwythlondeb y byd naturiol gydag iechyd corfforol, ffyniant ysbrydol a chreadigrwydd diwinyddol.
Roedd ei diddordebau hyd yn oed yn ymestyn i iaith. Dyfeisiodd y LinguaIgnota, neu “iaith anhysbys”, sydd wedi goroesi’n bennaf ar ffurf geirfa o 1,011 o eiriau a ddyfeisiwyd, ynghyd â’r wyddor.
Cerddoriaeth
Roedd cerddoriaeth yn ganolog i ddealltwriaeth Hildegard o’r dwyfol.
Cyfansoddodd 77 o siantau litwrgaidd sydd wedi goroesi, gyda’r mwyafrif wedi’u cyfansoddi at ddibenion perfformiad o fewn ei chymuned grefyddol, er mae’n ymddangos bod rhai ohonynt wedi cael eu hysgrifennu ar gyfer cynulleidfaoedd eraill.
Mae ei melodïau’n symud ar draws ystod leisiol anarferol o eang. Maent yn codi, yn disgyn ac yn troelli drwy’r llais, weithiau’n ymestyn sillaf unigol i fod yn un cymal llesmeiriol.
I Hildegard a menywod yn ei chymunedau, roedd canu’n rhan hanfodol o addoli: iaith gerddorol a rannwyd a thrwyddi gallent roi mynegiant i’w ffydd, ymgysegriad a’r byd ysbrydol oedd yn llunio eu bywydau.
Mae ei chasgliad, Symphonia armonie celestium revelationum - Symphony of the Harmony of Celestial Revelations - yn dwyn ynghyd y caneuon sanctaidd hyn yn cysylltu addoliad monastaidd gyda’r cytgord roedd Hildegard yn ei ganfod drwy ei gweledigaethau.
Yn eu mysg mae O ruborsanguinis, atepgan a gyfansoddwyd fwy na thebyg ar gyfer y Gosber Cyntaf ar gyfer St Ursula a’i chymdeithion, Merthyron Gwyryfon Cologne. Heb enwi Ursula’n uniongyrchol, mae’n trawsnewid merthyrdod i ddelwedd o flodeuo, gwyryfdod a dycnwch ysbrydol.
Mae un arall, Rex nosterpromptus est, yn atebiad ar gyfer Gŵyl y Gwirioniaid, yn coffáu’r plant a laddwyd o dan orchymyn y Brenin Herod.
Bron i 900 o flynyddoedd yn ddiweddarach, mae gan gerddoriaeth Hildegard y grym i lenwi gofod o hyd.
Gallwch glywed O rubor sanguinis a Rex noster promptus est yn cael ei berfformio gan Corws WNO yn Bluebeard’s Castle + Oedipus Rex, gan agor yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar 20 Medi 2026 cyn mynd ar daith i Landudno, Southampton, Rhydychen a Plymouth.
