Yn 1855, ysgrifennodd Verdi mai Rigoletto oedd ei opera orau; gyda chyflymdra dramatig tynnach, mwy cyffrous a ffurf newydd o gymeriadu, mae'r sgôr arbennig yn cynnwys sawl alaw gofiadwy, yn cynnwys yr adnabyddus La donna è mobile. Heddiw, mae'n un o'r operâu sy'n cael ei pherfformio fwyaf aml ac yn un o'r repertoire opera ymhlith y deg uchaf - gan ei brofi'n gywir. Roedd ei awydd i roi tro ar bethau newydd wedi'i arwain at darddiad y stori y dymunodd ei haddasu; gan chwyldroi opera yn y broses.
Roedd cyflawniad Verdi yn seiliedig ar ddrama ddadleuol Victor Hugo, Le roi s’amuse (The King Amuses Himself, 1832), a gafodd ei gwahardd yn Ffrainc ar ôl un perfformiad, ond credai Verdi mai dyma oedd 'y pwnc mwyaf ac efallai'r ddrama fwyaf yn oesoedd modern'. Nid oedd yn gweld y sensoriaeth y gwyddai a oedd ar ddod yn broblem, a dechreuodd y broses o ysgrifennu'r gerddoriaeth cyn i awdurdodau Awstria roi caniatâd i wneud yr addasiad.
Ystyriodd cymeriad Rigoletto (neu, Triboulet, fel y'i hadnabyddir yn y ddrama) yn 'greadigaeth o werth Shakespeare'; gyda'r cymeriad coeglyd, chwerw, sarhaus y mae'n ei bortreadu i'r byd yn gwbl wahanol i'r emosiynau tyner y mae'n eu dangos tuag at ei ferch, Gilda. Yna, mae gennych y Dug difoeseg, nad yw'n cael ei gosbi am ei ymddygiad ofnadwy, yn hytrach Rigoletto yw'r dyn drwg a'i ferch ddiniwed sy'n dioddef yn y pendraw. Yn gyffredinol, mae'n stori sy'n gyfwerth â thrasiedïau mwyaf Shakespeare.
Mae Rigoletto yn cynrychioli rhaniad amlwg Verdi oddi wrth gonfensiynau traddodiadol opera - nid oes ariâu mynediad ffurfiol i'r cymeriadau, nag adroddganau confensiynol (rhannau o'r sgôr sy'n symud y plot ymlaen drwy ddynwared lleferydd); yn hytrach gwnaeth Verdi y ddrama yn un barhaus, gyda'r ddrama a'r gerddoriaeth yn fwy cysylltiedig, a chanolbwyntio ar ryngweithiad rhwng cymeriadau.
VerdiLluniais Rigoletto heb ariâu, heb ddiweddgloeon, fel cadwyn ddi-dor o ddeuawdau ac rwy'n ei weld fel 'un o'r pynciau gorau, mwyaf effeithiol yr wyf wedi'i osod i gerddoriaeth hyd yn hyn... Mae i'r opera sefyllfaoedd grymus, amrywiaeth, brio, pathos.
Yn lle eu hariâu mynediad, ysgrifennodd Verdi 'themâu' i'w brif gymeriadau, gan gyfathrebu natur wahanol Rigoletto, Dug Gilda; gyda'r cymeriadu cerddorol hyn yn newid wrth iddynt ddatblygu trwy gydol opera.
Bu i Verdi gadw nifer o'i alawon gorau, yn cynnwys La donna è mobile y Dug rhag y cast a'r gerddorfa hyd y funud olaf, gan wneud i'r cantor dyngu llw i'w chadw'n gyfrinach, gan ei fod mor hyderus ynglŷn â pha mor boblogaidd fyddai'r alaw. Un arall o'i gampweithiau yw'r pedwarawd enwog Bella figlia dell’amore, sydd mewn gwirionedd yn ddwy ddeuawd yn cael eu canu ochr yn ochr â'i gilydd, gan y Dug a Maddalena, a Rigoletto a Gilda - dau wahanol ddeialog yn yr un sefyllfa, o wahanol safbwyntiau, ond sy'n cyd-weithio i ddwysáu'r ddrama. Dywedodd Verdi ei hun: 'Dydw i ddim yn disgwyl gwneud yn well na'r Pedwarawd. Mae llawer un yn ei ystyried y darn gorau o ysgrifennu ensemblau yn hanes opera.'
Mae Rigoletto wirioneddol yn dangos athrylith Verdi, ac roedd o'n gwybod ac yn datgan hynny hefyd.