Newyddion

Arwel Hughes - 'Tydi a Roddaist'

29 Mehefin 2021

Ganed Arwel Hughes ar 25 Awst 1909 yn Rhosllannerchrugog, ac roedd yn un o gyfansoddwyr amlycaf ei gyfnod ac mae ei gatalog enfawr o gyfansoddiadau yn cynnwys yr emyn hynod boblogaidd Tydi a Roddaist (1938) – a gyfansoddwyd yng Ngorsaf Reilffordd Amwythig, Fantasia for Strings (1936), Prelude for Orchestra (1945), a'r oratorios Dewi Sant (1950) a Pantycelyn (1963) – a dyma y mae fwyaf enwog amdano. Chwaraeodd Hughes ran bwysig yn y tirlun cerddorol yng Nghymru a dyfarnwyd OBE iddo am ei wasanaethau i gerddoriaeth Cymru yn 1969.

Ar ôl astudio gyda Ralph Vaughan Williams a C. H. Kitson yn y Royal College of Music, dechreuodd Arwel Hughes ei yrfa gerddorol broffesiynol fel trefnydd yn Rhydychen, ond nid oedd yn hir cyn iddo ddychwelyd i Gymru, gan gyfansoddi, trefnu a chreu cerddoriaeth i gerddorfeydd ac arwain gweithiau newydd gan rai o gyfansoddwyr gorau'r wlad fel Pennaeth Cerddoriaeth BBC Cymru.

Yn Hydref 1953, gwnaeth hanes drwy ddod y cyfansoddwr byw cyntaf i gael ei berfformio gan Opera Cenedlaethol Cymru. Perfformiad cyntaf y byd o opera gyntaf Hughes - Menna – oedd yr unig gynhyrchiad newydd y flwyddyn honno. Mae'r libretto gan Dr Wyn Griffith yn seiliedig ar chwedl werin Gymreig drasig Menna a ddilynodd, ar noswyl ei phriodas, yr arferiad hynafol o guddio nes i'r priodfab ddod o hyd iddi. Fodd bynnag, sawl blwyddyn yn ddiweddarach ac eto i'w chanfod, mae Gwyn yn darganfod ei gwisg briodas mewn coeden gyfagos, gan arwain at ddiweddglo torcalonnus. Cafwyd cast eithriadol ar gyfer y dangosiad cyntaf, a gafodd dderbyniad cynnes gan y gynulleidfa ar y noson gyntaf - Elsie Morison fel Menna a Richard Lewis fel Gwyn.

Yn dilyn rhai gwelliannau, dychwelodd yr opera ym mis Awst 1954 ac fe'i perfformiwyd i gynulleidfa o 6,000 o bobl yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn Ystradgynlais – y gynulleidfa fwyaf erioed ar gyfer opera yng Nghymru. Yn 2009, arweiniodd Owain Arwel Hughes Gerddorfa Gyngerdd y BBC mewn perfformiad o opera ei dad, a ddarlledwyd ar BBC Radio 3.  

Cafodd ail opera Hughes, a'r opera ddiwethaf hefyd ei pherfformio am y tro cyntaf gan Opera Cenedlaethol Cymru. Serch yw'r Doctor, comedi a addaswyd gan Saunders Lewis o L'Amour médecin gan Molière, oedd cynhyrchiad cyntaf John Moody fel Cyfarwyddwr Cynyrchiadau WNO. Wedi'i gomisiynu gan Gyngor Celfyddydau Cymru derbyniodd yr opera ei dangosiad cyntaf llwyfan, dan faton y cyfansoddwr, ar 1 Awst 1960 - noson agoriadol Eisteddfod Genedlaethol Cymru yng Ngerddi Sophia Caerdydd. Yn y llyfr Opera Cenedlaethol Cymru, mae Fawkes yn crynhoi'r stori fel stori am 'fachgen tlawd sy’n caru merch gyfoethog; tad merch yn gwahardd priodas; mae 'meddyg' yn rhagnodi priodas iddo'i hun fel yr unig ateb i broblemau'r ferch ac mae'n dod i’r amlwg, wrth gwrs, mai bachgen tlawd mewn cuddwisg yw ef.'  Roedd y cast yn cynnwys Lucille Graham, Rhydderch Davies, Rowland Jones a Marion Lowe.

Chwaraeodd y gweithiau hyn ran bwysig yn natblygiad opera yng Nghymru a chaniataodd i Opera Cenedlaethol Cymru hyrwyddo gwahanol dalentau, gwybodaeth a sgiliau’r wlad a arweiniodd at fwy o berfformiadau cyntaf y byd gan gyfansoddwyr o Gymru yn y blynyddoedd dilynol - The Parlour gan Grace Williams (1966), The Beach of Falesa gan Alun Hoddinott (1974), The Servants gan William Mathias (1980) a The Journey gan John Metcalf (1981).