Newyddion

WNO a Janáček: Stori garu Gymreig a Tsieca

23 Tachwedd 2022

Mae Tymor Hydref 2022 Opera Cenedlaethol Cymru yn cynnwys The Makropulos Affair gan Leoš Janáček, y cyfansoddwr Tsiecaidd. Nid yw’r cynhyrchiad newydd sy’n llawn dirgelwch, swyn a chynnwrf yn cael ei berfformio’n aml iawn, ond mae wedi derbyn adolygiadau pum seren  gwych, ac mae ein cysylltiad ni gyda’r cyfansoddwr Tsiecaidd yn dechrau yn ystod yr 1970au.

Roedd operâu Janáček yn ddigwyddiadau prin mewn cylchoedd operatig yng nghanol yr 20fed ganrif, yn dilyn marwolaeth y cyfansoddwr ym 1928 a gan fod effeithiau hirhoedlog yr Ail Ryfel Byd II yn dal yn amlwg yn Ewrop. Roedd penodi Syr David Pountney fel cyfarwyddwr Cylch Janáček Opera Cenedlaethol Cymru rhwng 1975 – 1982 yn gyfle i gyflwyno amrywiaeth o gefnogwyr opera i’r operâu Tsiecaidd ledled y Deyrnas Unedig. Roedd y Cylch Janáček gwreiddiol hwn gan Opera Cenedlaethol Cymru  yn cynnwys perfformiadau pum opera: Jenůfa, The Makropulos Case, The Cunning Little Vixen, Kátya Kabanová a From the House of the Dead

Ar ôl gorffen y cylch hwn, aeth Opera Cenedlaethol Cymru ati i benodi Charles Mackerras fel Cyfarwyddwr Cerddoriaeth. Roedd gan Mackerras hanes hir â WNO. Bu'n ymwneud â’r Cwmni ers mwy na 30 o flynyddoedd, ac roedd wedi bod yn gefnogwr amlwg o waith Janáček yn ystod ei yrfa yn y Deyrnas Unedig. 

Mae’r ddau artist dan sylw, ac eraill, wedi creu traddodiad Janáček gwych yn y DU, yn enwedig yma yng Nghymru

Tomáš Hanus, Cyfarwyddwr Cerddoriaeth WNO

Penodwyd Tomáš Hanus yn Gyfarwyddwr Cerddoriaeth WNO yn 2016. Mae gan y cyfansoddwr medrus o’r Weriniaeth Tsiec frwdfrydedd bythol dros weithiau Leoš Janáček. Magwyd Hanus ar yr union stryd ble roedd Janáček yn gweithio yn Brno, a derbyniodd Fedal Goffa Leoš Janáček am ei wasanaethau i gerddoriaeth y cyfansoddwr Morafaidd. Mae Hanus yn dotio ar operâu Janáček, ac angerdd a dwyster y ddrama ynddynt. Cymerodd yr awenau dros ein Cylch Janáček diwethaf a ddechreuodd yn 2019 gyda chynhyrchiad o The Cunning Little Vixen.

Parhaodd y Cylch yn ystod ein Tymor Gwanwyn 2022 gyda chynhyrchiad penigamp Katie Mitchell o’r opera ofidus, Jenůfa. Derbyniwyd y stori ysgytwol am fywyd, a thensiwn teuluol mewn pentref Morafaidd bach, yn dda iawn ymhlith cynulleidfaoedd a chritigiaid, heb anghofio am berfformiadau anhygoel Eliška Weissová ac Elizabeth Llewelyn. Roedd yr opera hon yn gosod sylfaen ar gyfer ein hopera ddiweddaraf gan Janáček, The Makropulos Affair, a bydd yn mynd ar daith fel rhan o’n Tymor Hydref 2022. Cofiwch nad yw hi’n rhy hwyr i’w mwynhau yn Southampton a Rhydychen.

Gwahoddwyd Opera Cenedlaethol Cymru i berfformio The Makropulos Affair yn nhref enedigol Janáček yn Brno yn ystod Gŵyl Janáček ym mis Tachwedd 2022. Gallwch wylio Cerddorfa WNO yn perfformio’r Agorawd i The Makropulos Affair yma.