Newyddion

Y Maestro o Forafia: Pwy oedd Janáček?

20 Medi 2022

Cyfansoddwr Tsiecaidd a fu’n byw yn Brno am gyfnod hir o’i fywyd oedd Leoš Janáček. Ers ei farwolaeth yn 1928, mae wedi’i gydnabod fel un o hyrwyddwyr pwysicaf cenedlaetholdeb cerddorol yr 20fed ganrif.

Fei’i ganed ym Morafia yn 1854, daeth Janáček yn fachgen côr yn Abaty Sant Tomos yn Brno yn 1865, a chafodd ei ddawn gerddorol ei hadnabod yn syth. Aeth ymlaen i astudio mewn amrywiol conservatoires yn Mrag, Leipzig a Fienna, cyn dychwelyd i Brno fel athro a chyfansoddwr, gan ysgrifennu nifer o ddarnau o gerddoriaeth siambr. Cadwodd gysylltiad agos â'i wreiddiau ym Morafia ac roedd ganddo ddiddordeb mawr yng ngherddoriaeth werin ei wlad. Treuliodd gyfnod helaeth o amser yn casglu caneuon gwerin a chyhoeddodd y cyfnodolyn Hudební Listy (Tudalennau Cerddorol) rhwng 1884 a 1888. Dylanwadodd graddfeydd ac alawon cerddoriaeth werin Morafaidd yn fawr ar ei waith cerddorol, a chyfrannodd y cyfan at Janáček yn dod yn un o’r cyfansoddwr Tsiecaidd mwyaf blaenllaw.

Dylanwadodd gwybodaeth drylwyr Janáček o arddull gerddorol Morfaidd ar nid yn unig ei gerddoriaeth siambr, ond ei operâu hefyd. Byddai’n gwrando ar sgyrsiau, gan nodi goslef a rhythm siarad Tsiecaidd, ac yna’n defnyddio’r wybodaeth honno yn effeithiol yn ei operâu trwy ysgrifennu’r gerddoriaeth o gwmpas libreto a sgyrsiau’r cymeriadau.  

 Trwy gydol ei fywyd, ymwelodd Janáček â Rwsia sawl gwaith, ac roedd ganddo ddiddordeb mewn iaith a llenyddiaeth Rwsia. Roedd y libreto o’i opera diwethaf, From the House of the Dead, yn gyfieithiad wedi’i addasu o'r nofel o 1862 Notes from the House of the Dead gan Fyodor Dostoevsky. Cyd-gynhyrchodd Opera Cenedlaethol Cymru, cynhyrchiad pum seren Syr David Pountney gydag Opera’r Alban a gafodd ei pherfformio diwethaf gennym yn ystod Tymor yr Hydref 2017, cyn mynd â’r cynhyrchiad i Ŵyl Brno yn ddiweddarach y flwyddyn honno.

Ym mis Awst 1928, datblygodd Janáček niwmonia tra  ar daith i Štramberk, tref fach yng Ngweriniaeth Tsiec. Arweiniodd hynny at ei farwolaeth ar 12 Awst 1928, yn 74 oed. Roedd ei angladd yn ddigwyddiad cyhoeddus mawr, a chafodd y gerddoriaeth o olygfa olaf The Cunning Little Vixen ei pherfformio yn y gwasanaeth. Cafodd ei gladdu yn y Maes Anrhydedd ym Mynwent Ganolog Brno.

Mae gan WNO hanes cyfoethog o berfformio operâu Janáček. Yn 2019, fe wnaethom ddechrau ein Cylch Janáček presennol gyda The Cunning Little Vixen, opera fywiog a chyfareddol sy’n canolbwyntio ar gylch bywyd, a’r holl lawenydd a phoen sy’n gysylltiedig â hynny. Yng Ngwanwyn 2022, fe wnaethom lwyfannu’r opera dramatig a dwys Jenůfa, lle mae Janáček yn archwilio gwarth a maddeuant teuluol mewn pentref clawstroffobig yn Morafia. Yr Hydref hwn byddwn yn perfformio cynhyrchiad newydd sbon o The Makropulos Affair, sy’n cynnwys ymgais am fywyd tragwyddol ac un o sgorau mwyaf heriol y cyfansoddwr. Dewch i brofi ein cynhyrchiad diweddaraf o opera Janáček ar daith yr Hydref hwn. Byddwn yn ymweld â Chaerdydd, Llandudno, Plymouth, Birmingham, Southampton a Rhydychen rhwng 16 Medi a 2 Rhagfyr.