Newyddion

WNO yn perfformio yn y Gyfres o Gyngherddau Rhyngwladol mis Tachwedd yma

29 Hydref 2018

Mis Tachwedd yma byddwn yn perfformio'r cyntaf mewn cyfres o dri chyngerdd yn Neuadd Dewi Sant fel rhan o’r Gyfres o Gyngherddau Rhyngwladol.  Bydd ein Cyfarwyddwr Cerdd Tomáš Hanus yn dychwelyd i arwain Cerddorfa WNO yn ogystal â’r unawdwyr gwych: y chwaraewr soddgrwth ifanc o Armenia Narek Hakhnazaryan (un o gyn-aelodau cynllun Artist Cenhedlaeth Newydd y BBC), a’r bariton o Slofacia Gustáv Beláček.  Darllenwch ymlaen i gael rhagor o wybodaeth am y darnau y byddwn yn eu perfformio ac i gael ychydig o gefndir i’r darnau eu hunain a fydd efallai yn gymorth i chi eu gweld nhw mewn goleuni newydd.

Bydd y cyngerdd yn agor gydag Agorawd William Tell gan Rossini.  Perfformiwyd William Tell yn 1829 a hon oedd yr olaf o 39 o operâu Rossini, ymddeolodd yn rhannol wedyn (ond parhaodd i gyfansoddi cantatas, cerddoriaeth gysegredig a cherddoriaeth leisiol anghysegredig).  Mae’r agorawd, sy’n cael ei pherfformio’n aml, yn cynnwys portread o storm a’r diweddglo bywiog, ‘March of the Swiss Soldiers.’  Cliciwch yma i ddarllen mwy am le y gallech fod wedi clywed y gerddoriaeth hon o’r blaen. 

Byddwn yna’n croesawu Narek Hakhnazaryan i’r llwyfan i ymuno â’r gerddorfa i berfformio Concerto Soddgrwth Elgar.  Yn 1918, cafodd Elgar lawdriniaeth yn Llundain i dynnu tonsil heintus, ar ôl iddo ddeffro wedi’r llawdriniaeth, gofynnodd am bapur a phensil ac ysgrifennodd alaw fechan, a fyddai’n dod yn thema gyntaf y concerto.  Eto, yn 1918, cyfansoddodd Elgar tri darn o waith siambr. Sylwodd ei wraig bod y gwaith yn wahanol i’w gyfansoddiadau blaenorol, ac ar ôl i’r darnau gael eu perfformio am y tro cyntaf yng ngwanwyn 1919 dechreuodd Elgar wireddu ei syniad o goncerto soddgrwth.  Cyfansoddwyd y darn hwn yn ystod haf 1919 yn ei fwthyn diarffordd, Brinkwells, ger Fittleworth yn swydd Sussex, lle’r oedd mewn blynyddoedd blaenorol wedi clywed dwndwr gynnau mawrion y Rhyfel Byd Cyntaf ar draws y Sianel.

Mae ail ran y cyngerdd yn cynnwys gwaith cyfansoddwr sy’n hanu o Brno, yr un ddinas lle magwyd Tomáš, wrth i ni gyflwyno dau ddarn o waith Janáček.

Yn cychwyn gyda ‘Monolog y Coedwigwr’ o’r opera The Cunning Little Vixen, a berfformiwyd y tro diwethaf gan WNO yn 2013, mae’r aria hon yn cloi opera Janáček mewn golygfa sydd hefyd yn adlewyrchu diwedd y storïau y mae hi’n seiliedig arnynt.  Mae’r olygfa olaf yn cynnwys peth o gerddoriaeth fwyaf telynegol ac angerddol Janáček.  Mae’r coedwigwr yn cychwyn am adref, gan gerdded trwy’r goedwig.  Daw atgof dymunol yn ôl iddo, casglu madarch gwyllt gyda’i wraig, fel cwpl ifanc mewn cariad.  Yn teimlo’n hapus ac yn fodlon ei fyd yn ei goedwig annwyl, mae’n gorwedd i lawr i bendwmpian, golygfa sy’n adlewyrchu agoriad yr opera.  Ar ôl iddo ddihuno mae’n myfyrio ar ei golled, galar, bywyd, marwolaeth a natur gylchol bywyd. 

Yna symudwn ymlaen i’r Sinfonietta fywiog - darn sydd wedi’i gyflwyno i’r “Fyddin Tsiecoslofacaidd’, dywedodd Janáček mai bwriad y darn oedd mynegi “y dyn rhydd cyfoes, ei harddwch ysbrydol a’i lawenydd, ei gryfder, ei wroldeb a’i benderfyniad i ymladd am fuddugoliaeth.”  Daeth yr ysbrydoliaeth wreiddiol o glywed band pres, a dechreuodd ysgrifennu rhywfaint o ffanfferau ei hun.  Pan ofynnodd trefnwyr Gŵyl Gymnasteg Sokol iddo gyfansoddi gwaith, datblygodd y deunydd i ffurfio ei Sinfonietta.  Perfformiwyd y gwaith am y tro cyntaf yn Prague ar 26 Mehefin 1926 o dan enw Václav Talich.

Pa ffordd well i dreulio pnawn Sul?