Newyddion

WNO Y tu ôl i'r llen - Wigiau a Cholur

21 Mai 2021

Mae'r byd opera yn enwog am ei ysblander ac edrychiadau unigryw iawn. Daw rhan fawr o'r ddelwedd o'r wigiau a'r colur, ac yma yn Opera Cenedlaethol Cymru mae gennym dîm penodol yn helpu'r cantorion i greu edrychiad eu cymeriad. Cawn wybod sut mae Siân McCabe ein Pennaeth Wigiau a Cholur, a Bethan Jones ein Cynorthwyydd Wigiau a Cholur yn mynd ati i gyflawni hyn.

Ar gyfartaledd, pa mor hir mae'n cymryd i gantorion baratoi wigiau a cholur ar gyfer opera?

Siân:
Yn gyffredinol, mae merched sy'n chwarae prif rannau yn cymryd llawer mwy o amser i baratoi ar gyfer perfformiad na dynion. Gallant gymryd rhwng 45 munud ac awr ar gyfer taenu colur a gosod wigiau. Yn y cyfamser, mae'r dynion yn cymryd rhwng 10-30 munud, yn ffodus gallant ddefnyddio eu gwalltiau eu hunain sy'n mynnu ychydig o steilio'n unig ac yn fwy naturiol fel rheol. Yn aml, dim ond ar gyfer sicrhau gwedd naturiol mae dynion angen colur - i wneud yn siŵr nad ydynt yn edrych fel pe baent yn gwisgo colur.

Yn ogystal, dim ond hanner awr sydd gan y Corws i wneud eu hunain yn barod - ac ni waeth faint o wigiau neu golur sydd angen eu paratoi, mae'n rhaid iddynt wneud eu hunain yn barod yn yr amser hwn.

A fyddech chi'n ystyried wigiau a cholur yn ffactor bwysig yn y naratif a'r gwaith o adrodd yr opera ei hun?

Bethan:
Yn sicr! Mae wigiau a cholur yn chwarae rhan bwysig yn dangos y cyfnod mae'r opera wedi'i leoli ynddo. Gallwn gysylltu steiliau penodol â chyfnodau gwahanol - er enghraifft mae 'victory rolls' mewn gwallt benyw yn cynrychioli'r 1940au. Gall wigiau ddangos statws cymdeithasol cymeriad hefyd megis wigiau wedi'u haddurno a'u steilio'n gain ar gyfer edrychiad crand a statws uchel, o'i gymharu ag wig fwy syml i gynrychioli'r rheiny sy'n perthyn i ddosbarth cymdeithasol is. Rydym hefyd yn defnyddio wigiau llwyd i wneud i rywun edrych yn fwy dwys neu i ddynodi treigl amser neu ddirywiad yn iechyd cymeriad - megis yn fideo La traviata Bethan isod

Pa gymeriad mewn opera sy'n profi'r newid mwyaf dramatig yn ystod perfformiad, a pha heriau mae hyn yn eu cyflwyno?

Siân:
Mae rai newidiadau wigiau a'r colur ym mhob opera, fel rheol mân newidiadau fel mymryn mwy o golur neu addurn gwallt ychwanegol, fodd bynnag mae rhai newidiadau sylweddol y mae'n rhaid eu gwneud o fewn amserlen fer

Pan berfformiodd WNO Roberto Devereux gan Donizetti olaf, un newid amlwg oedd Joyce El-Khoury fel Elisabetta, dim ond 15 munud oedd ganddi i newid gwisg, wig a cholur! Yn yr amser hwn, roedd rhaid iddi gyrraedd yr ystafell wisgo, newid gwisg, tynnu ei wig, a chael cap moel wedi'i osod gyda cholur llawn ar ben hynny. Roedd hyn yn broses faith - cymerodd ddau aelod o'r tîm i helpu. Mewn sefyllfaoedd fel y rhain nid oes amser ar gyfer camgymeriadau gan nad oedd yn newid yn ystod egwyl, fel y gallwch ddychmygu gall fod yn ras yn erbyn amser!

Beth yw eich hoff 'edrychiad' WNO i greu?

Siân & Bethan:
Roeddem wrth ein bodd gyda chymeriad y wrach yn Hansel and Gretel lle'r oedd tenor yn chwarae rhan gwrach fenywaidd, yn seiliedig yn fras ar Mrs Doubtfire. Cawsom wyneb prosthetig llawn wedi'i wneud o ewyn a wig wedi'i setio gyda siampŵ llwyd. Cymerodd hyn, unwaith eto, ddau ohonom i'w osod, gan gymryd oddeutu awr (a'r un faint o amser i'w dynnu!). Y rhan orau i ni, fel y criw wigiau a cholur yw gweld pobl yn newid personoliaethau ac yn camu i esgidiau'r cymeriad pan maent yn gweld eu hunain yn y drych. Mae hyn yn gwneud yr ymdrech yn werth chweil ac yn swydd wobrwyol iawn.