Newyddion

Anturiaethau WNO yng Ngerddi Dyffryn

2 Mehefin 2021

Mae Opera Cenedlaethol Cymru yn falch iawn o fod yn dychwelyd i berfformiadau byw yn ddiweddarach y mis hwn gyda rhediad byr o opera deuluol Will Todd, Alice’s Adventures in Wonderland. Yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, bydd hwn yn berfformiad awyr agored a gynhelir yng Ngerddi Dyffryn ym Mro Morgannwg.

Yn seiliedig ar nofel glasurol Lewis Carroll, mae’r opera’n cynnwys y cymeriadau llawn bywyd y mae Alice yn dod ar eu traws yn ystod ei thaith yng Ngwlad Hud. Mae’r soprano o Gymru Fflur Wyn yn perfformio prif rôl y ferch ifanc sy’n mynd ar antur wych, yn dilyn cwningen wen, cael te gyda Mad Hatter, Llo Tarw Blwydd a llygoden ddaear gysglyd ac yn y pen draw yn eu hachub o afael blin Brenhines y Calonnau a’i hysgwieriaid Tweedledum a Tweedledee.

Bydd y cynhyrchiad, a grëwyd yn wreiddiol ar gyfer Opera Holland Park yn Llundain, yn cael ei gynnal ar bob ochr i'r gynulleidfa a bydd yn symud rhwng dau leoliad yn y gerddi hardd sy’n eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Gyda chynhwysedd cyfyngedig o 70 bob perfformiad, bydd pellhau cymdeithasol ar waith a bydd yr awyrgylch agos atoch yn gwneud hwn yn brofiad hyfryd i deuluoedd o bob oed.

Dywedodd Kathryn Joyce, Pennaeth Rheolaeth Artistig WNO, ‘Roeddem eisiau dychwelyd i berfformio byw cyn gynted ag yr oeddem yn gallu ac, ar gyfer lleoliad awyr agored, Alice's Adventures in Wonderland oedd y dewis perffaith. Dyma’r cyfle delfrydol i deuluoedd ddod i fwynhau perfformiad hyfryd gyda’i gilydd mewn lleoliad bendigedig.’


Os bydd tywydd gwael, bydd perfformiadau’n cael eu canslo a chysylltir â chynulleidfaoedd cyn gynted â phosibl