Newyddion

Hanes WNO ym Mryste

26 Hydref 2021

Mae gan Opera Cenedlaethol Cymru gysylltiad â Bryste ers dros hanner canrif, wedi teithio yno ers Gwanwyn 1968, i’r Hippodrome (y theatr olaf i Frank Matcham ei dylunio cyn iddo ymddeol) o’r dechrau un. Hwn hefyd oedd y lleoliad olaf i ni berfformio ynddo cyn i gyfnod clo Covid ddod i rym, pan benderfynodd Arweinydd Llawryfog WNO, Carlo Rizzi, yn ystod y llen-alwad ar y perfformiad olaf (Les vêpres siciliennes, dydd Sadwrn 14 Mawrth 2020), gyffwrdd ei benelin â’r prif gantorion yn hytrach na dal dwylo, gan achosi i’r gynulleidfa chwerthin – pwy oedd yn gwybod bryd hynny pa mor hir y byddai hyn yn para?

Agorodd ein tymor cyntaf ym Mryste gyda chynhyrchiad o Carmen, heb unrhyw raglenni yn anffodus, oherwydd nad oeddynt wedi’u danfon mewn pryd. Roedd y tymor, a gafodd eu cynnal rhwng 25 Mawrth a 6 Ebrill 1968, hefyd yn cynnwys The Barber of Seville (rydym wedi'i pherfformio yno yn ystod 16 tymor gwahanol, heb cynnwys cyfnod perfformio’r Hydref hwn), Rigoletto, Nabucco a Don Giovanni. Roedd angen cerbydau ychwanegol ar gyfer yr amserlen deithio newydd, a hyd yn oed wedyn, bu sawl taith rhwng Caerdydd a Bryste i gael yr holl setiau a golygfeydd i’r theatr!

Aethom yn ôl i’r Hippodrome yn ystod tymor yr Hydref 1977, y flwyddyn gyntaf i ni berfformio yno yn ystod y dau Dymor, a gyda repertoire eang: Roedd y Gwanwyn yn cynnwys Il trovatore, The Barber of Seville, The Midsummer Marriage, I Masnadieri ac Orpheus in the Underworld. Yna, yn yr Hydref: The Pearl Fishers, Rigoletto, The Queen of Spades, I Masnadieri eto, a Billy Budd. Ond doedd hynny'n ddim o'i gymharu â 1979, pan oedd Bryste yn un o'r lleoliadau y gwnaethom deithio iddo dair gwaith, a gyda Cherddorfa Opera Cenedlaethol Cymru newydd ei hailenwi yn Nhymor yr Hydref.

Dyma ein hystadegau Bryste hyd yn hyn: 122 taith o 611 o berfformiadau, hyd at a gan gynnwys Tymor y Gwanwyn 2020. Y tro diwethaf i ni fynd â The Barber of Seville ar daith i Fryste, yn ystod Ail Act y perfformiad ar 15 Mawrth 2016, nododd ein hadroddiad sioe: ‘Torrodd ci Basilio ei dennyn yn ystod y Pumawd. Rhoddodd Miss Booth y ci i Mr Wiegold [Basilio], heb y tennyn, ac fe'i cariodd e amgylch y set, yn cerdded i mewn i'r waliau'n effeithiol iawn. Cafodd y ci ei adfer erbyn y Diweddglo’. Cafodd y flwyddyn cyn ein perfformiadau ei heffeithio gan geffylau ar yr A48, gan achosi oedi i nifer o’r cast a’r criw... onid oes rheol yn y byd adloniant am weithio gydag anifeiliaid?

Mae un aelod triw o gynulleidfa Bryste ers dros 52 o flynyddoedd yn credu: ‘Llwyfan yr Hippodrome yw’r mwyaf rydych yn ei ddefnyddio, ac felly mae’r cynhyrchiad yn edrych yn well ym Mryste nag ar nifer o lwyfannau llai eraill... Mae’r ffaith nad oes Pwll Cerddorfa’n golygu bod sain y Gerddorfa’n well ym Mryste nag yn nifer o’ch lleoliadau eraill.’

Ynghyd â’n perfformiadau opera raddfa mawr, mae ein gwaith cymunedol wedi chwarae rhan bwysig mewn meithrin cysylltiadau hefyd. Bydd llawer wedi tyfu i fyny ac wedi profi WNO am y tro cyntaf drwy berfformiadau ein Cerddorfa o glasuron Nadolig fel TheSnowman yn Bristol Beacon (a elwid gynt yn Colston Hall); neu efallai eu bod wedi cymryd rhan yn un o’r nifer o weithdai rydym wedi'u cynnal mewn ysgolion dros y blynyddoedd; neu ein cydweithrediadau â sefydliadau fel Bristol Choral Society, Bristol Schools Music Society, Bristol Plays Music, gan gynnwys llawer o brosiectau gyda Bristol Sings.

Mae sgyrsiau a pherfformiadau llai hefyd wedi cael eu cynnal yn St George's; ein perfformiadau disgrifiad clywedol arferol a chyn hynny, taith gyffwrdd; ac wrth gwrs, ni allwn orffen heb sôn am ymrwymiad cryf ein band o Gyfeillion Bryste.