Newyddion

Hanes WNO yng Ngogledd Cymru a Llandudno

29 Tachwedd 2021

Yn ystod yr 1950au cynnar, ymwelodd WNO â Gogledd Cymru am y tro cyntaf, gan berfformio Il trovatore gan Verdi yn Theatr y Grand Llandudno ym mis Medi 1951 – perfformiad a oedd yn cynnwys Cerddorfa Symffoni WNO a’r arweinydd Haydn James. Roedd y tymor hefyd yn cynnwys ein perfformiadau bythgofiadwy o Madam Butterfly, Cavalleria rusticana a Pagliacci.

Yn ddiweddarach yn y degawd, 1957 oedd y flwyddyn y dechreuodd WNO deithio’n rheolaidd i Ogledd Cymru. Y lleoliad y tro hwn oedd sinema’r Odeon, gan fod Theatr y Grand wedi cau. Yn sicr, roedd y seddi yn y theatr yn well, ond doedd yr un peth ddim yn wir am y cyfleusterau a oedd ar gael i’r gerddorfa, ac fe’u disgrifiwyd fel a ganlyn: ‘roedd yr awditoriwm yn fwy nag un Covent Garden, ac roedd y llwyfan yr un mor llydan, ond nid oedd yn ddigon dwfn ac nid oedd pwll cerddorfa yno. Ychwaith, nid oedd yno lawer o gyfleusterau y tu ôl i’r llwyfan. Ni cheid bae golygfeydd, a bu’n rhaid codi’r setiau ddeg troedfedd ar hugain i’r awyr er mwyn eu cael i mewn i’r adeilad.’

Mae ffynhonnell arall yn honni ei bod hi braidd yn anodd teithio i leoliad glan môr yn ystod misoedd yr haf, a’i bod hi’n anodd dod o hyd i lety ar gyfer bron i 200 o bobl. Ond dyna’r unig adeg o’r flwyddyn y gallai WNO berfformio yno yn ystod y cyfnod hwn, oherwydd câi misoedd yr hydref a’r gaeaf eu neilltuo ar gyfer Abertawe a Chaerdydd.

Erbyn diwedd y 1950au, yn dilyn trydydd tymor llwyddiannus yng Ngogledd Cymru, bu galw mawr am docynnau ac fe werthwyd pob un o fewn dim o dro. Câi baneri ‘Croeso i WNO’ eu hongian mewn rhannau arbennig o’r dref, hyd yn oed, yn cynnwys yr orsaf drenau. Hefyd, roedd cynulleidfaoedd newydd o ardaloedd y tu allan i Ogledd Cymru yn dod i weld yr operâu, yn cynnwys twristiaid a phobl o’r ochr arall i’r ffin. Roedd rhai pobl hyd yn oed yn trefnu eu gwyliau i gyd-fynd â pherfformiadau WNO – arwydd o boblogrwydd cynyddol y Cwmni. Yn amlwg, roedd operâu erbyn y cyfnod hwn yn ffordd o ddenu twristiaid. Flwyddyn yn ddiweddarach, erbyn mis Awst 1960, bu’n rhaid newid amseroedd trenau cenedlaethol, er mwyn galluogi pobl i deithio ar adegau cyfleus i weld operâu. Dyma arwydd pendant o’r effaith a gâi gwaith WNO ar y tref glan môr, gan arwain hyd yn oed at newid amseroedd trafnidiaeth a misoedd gwyliau’r twristiaid.

Fel y gwyddom, roedd cynulleidfaoedd WNO yn dod o ddinasoedd gerllaw Gogledd Cymru, fel Lerpwl a Chaer, ond ym 1964 daeth cais i law gan ddwy ddynes o Efrog Newydd a oedd wedi dangos diddordeb yn WNO gan eu bod yn bwriadu dod i Landudno ar eu gwyliau ar yr un adeg â chynyrchiadau WNO. Oherwydd y cynnydd hwn yn y galw rhyngwladol am ein perfformiadau, bu’n rhaid gosod lein ffôn ychwanegol yn y swyddfa docynnau, oherwydd roedd yna lu o bobl yn disgwyl ar ben arall y ffôn bob nos yn ceisio neilltuo lle ac yn aros yn obeithiol am docynnau a oedd wedi cael eu dychwelyd. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, erbyn 1966 cafodd y tymor ei ymestyn i bythefnos yn dilyn y twf hwn ym mhoblogrwydd opera, ac erbyn 1970 perfformiodd WNO yn Llandudno gyda’i Gerddorfa lawn-amser gyntaf.

Dychwelydd WNO yn rheolaidd i Ogledd Cymru – ac rydym yn dal i fynd â’n cynyrchiadau opera a’n cyngherddau cerddorfaol yno hyd heddiw. Mae Llandudno hefyd yn gartref i Hwb WNO yng Ngogledd Cymru sy’n cynnig addysg a gwaith cymunedol, ac mae yna gangen o Opera Ieuenctid WNO yno hefyd.

Hyd yn hyn, mae WNO wedi perfformio tua 64 tymor a chynifer â 460 o berfformiadau opera yng Ngogledd Cymru. Llandudno o hyd yw un o’n lleoliadau mwyaf poblogaidd, ac mae’n rhywle y byddwn yn dychwelyd yno ddwywaith y flwyddyn. Bydd WNO yn dychwelyd i Venue Cymru yn ystod ein Tymor yr Hydref, rhwng 30 Tachwedd a 2 Rhagfyr, gyda The Barber of Seville gan Rossini a chynhyrchiad newydd sbon o Madam Butterfly gan Puccini. Felly beth am ddod draw i fwynhau gwledd o opera ar lan y môr y Tymor hwn?