Newyddion

Hanes WNO yn Plymouth

14 Hydref 2021

Mae gan Opera Cenedlaethol Cymru hanes o berfformio mewn amrywiaeth o leoliadau a theatrau ledled Cymru a Lloegr. Un o’n lleoliadau teithio rheolaidd yw Theatre Royal Plymouth – un o’r theatrau cynhyrchu rhanbarthol mwyaf yn y DU.

Wedi’i hadeiladu yn 1758, mae Theatre Royal Plymouth wedi cynnal perfformiadau o sioeau cerdd i operâu a ballets gan gwmnïau fel Birmingham Royal Ballet, Rambert Dance Company, Glyndebourne ac wrth gwrs, WNO.

I ddechrau, o ganlyniad i newidiadau yn y ffordd y dyrannwyd cyllid celfyddydol, teithiodd WNO i'r ddinas am wythnos o ymgysylltu a ddechreuodd tymor teithio rheolaidd i dde-orllewin Lloegr. 

Y tro cyntaf i ni ymweld â Plymouth oedd yn 1985, lle cafodd Madam Butterfly gan Puccini ei pherfformio - sydd hefyd yn rhan o’n taith Tymor yr Hydref 2021. Roedd cast 1985 yn cynnwys Rosamund Illing (Madam Butterfly), Cynthia Buchan (Suzuki), John Harris (Goro), cafodd rôl Pinkerton ei rhannu rhwng Arthur Davies a David Rendall tra roedd Henry Newman ac William Shimell yn rhannu rôl Sharpless.

Yn dilyn y Tymor llwyddiannus cyntaf hwn, aeth WNO ar daith eto dwy flynedd wedyn, yn 1987. Roedd y Tymor hwn yn cynnwys The Marriage of Figaro gan Mozart (wedi’i harwain gan Syr Charles Mackerras/Anthony Negus),Die Fledermaus gan Strauss II a The Cunning Little Vixen gan Janáček.  Aethom yn ôl eto yn 1990, yn dilyn taith lwyddiannus 1987. Yn wir, hyd nes Gwanwyn 2020, roedd WNO wedi perfformio yn Plymouth 144 o weithiau, yn nodi twf sylweddol poblogaeth WNO yn ne-orllewin Lloegr. 

Yn 2019, dechreuodd WNO deithio i Plymouth ddwywaith y flwyddyn fel rhan o ymrwymiad gyda’r lleoliad i barhau i gyflwyno operâu ar raddfa fawr i’r rhanbarth. Cawsom groeso arbennig gan y lleoliad ar gyfer ein hymweliad dwyflynyddol cyntaf gydag arddangosfa ffenestr a oedd wir yn dangos faint o feddwl sydd gan TRP o WNO (ac mae gennym ninnau feddwl mawr o TRP hefyd!). Yn anffodus, ychydig ar ôl hynny fe darodd y pandemig y DU a rhoddwyd stop ar theatr fyw. Dros flwyddyn a hanner yn ddiweddarach, ac rydym yn falch o fod yn ôl gydag ein taith yr Hydref 2021, yn gwneud ein stop gyntaf yn ne-orllewin Lloegr.