Newyddion

Canllaw Pobl Ifanc i’r Gerddorfa WNO

7 Ebrill 2025

Bydd Tymor y Gwanwyn 2025 Opera Cenedlaethol Cymru yn cynnwysPeter GrimesBenjamin Britten fydd yn cael ei llwyfannu mewn cynhyrchiad newydd, cyffrous. Wedi’n hysbrydoli gan ei gyfansoddiad The Young Person’s Guide to the Orchestra, rydym wedi dewis pedwar darn rydym ni’n credu sy’n gweithio fel cyflwyniad perffaith i adrannau cerddorfa, sy’n addas iawn bobl ifanc neu unrhyw un sydd am ddeall yr adrannau ychydig yn well.  

Yr Adran Chwythbrennau  - Ravel Boléro   

Yr offerynnau chwythbrennau sydd i’w cael fel arfer mewn cerddorfa yw’r ffliwt, clarinet, obo a basŵn. Mae Boléro Ravel ar ein rhestr am ei bod yn agor gydag unawdau sy’n hawdd i’w hadnabod gan offerynnau chwythbrennau. Yn eu trefn, y pum unawd y gall y gwrandawyr eu clywed yw’r ffliwt, clarinet, basŵn, clarinet E flat ac obo d’amore, i gyd yn chwarae amrywiadau o’r un thema. Dylai gwrando ar y darn hwn eich helpu i adnabod y gwahaniaeth yn eu traw (pa mor uchel neu isel ydynt) a’u soniaredd (sain a chymeriad nodedig pob offeryn).  

Yr Adran Bres - Symphonie Fantastique Berlioz  

Mae adran bres cerddorfa arferol yn cynnwys trwmpedi, cyrn Ffrengig, tiwbas a thrombonau, ac mae Symphonie Fantatsique Berlioz yn enghraifft wych er mwyn ddangos pŵer yr adran bres a’r rôl mae’n ei chwarae yn y gerddorfa. Mae pedwerydd symudiad March to the Scaffold yn cynnwys ffanfferau pres cryf, rhythmig sy’n gyrru’r gerddoriaeth yn ei blaen, ac mae’r gwrthgyferbyniad yn y tôn rhwng sain fywiog a chlir y trwmped a nodau dwfn, trymion y trombôn yn arbennig o nodedig. 

Y Llinynnau - Symphony for Strings Barber 

Fel arfer, yr adran linynnau yw’r fwyaf yn y gerddorfa, ac mae’n cynnwys feiolinau, fiolas, soddgrythau a bas dwbl. Mae telynau hefyd yn offerynnau llinynnol ac fe’u gwelir weithiau mewn cerddorfa, ond nid ydynt yn rhan o adran linynnau arferol. Mae Adagio for Strings Barber yn enghraifft wych o’r rôl mae llinynnau’n eu chwarae yn y gerddorfa. Mae’r darn yn agor gyda’r feiolinau’n chwarae alaw araf, llawn mynegiant, wedi’u dilyn gan y fiolas, y soddgrythau a’r basau dwbl yn raddol yn ymuno gyda harmonïau i’w cefnogi. Wrth i’r gerddoriaeth barhau, mae pob adran o deulu’r llinynnau yn dod yn fwy a mwy amlwg, gyda’r feiolinau yn chwarae’r brif thema a’r llinynnau isaf yn ychwanegu cynhesrwydd a dyfnder. Mae’r darn hwn yn amlygu’r ffordd mae’r gwahanol offerynnau llinynnol yn gweithio gyda’i gilydd i greu sain gyfoethog.  

Offerynnau Taro - Symphony No 4 Nielsen 

Gall ‘Offerynnau Taro’ gynnwys amrywiaeth eang o offerynnau a gellir eu rhannu’n ddwy is-adran: rhai sy’n cael eu tiwnio a rhai nad ydynt yn cael eu tiwnio. Mae offerynnau taro sy’n cael eu tiwnio yn cynnwys offerynnau megis timpani, y piano a’r seiloffon, ac mae offerynnau taro nad ydynt yn cael eu tiwnio yn cynnwys offerynnau megis drwm tannau, trionglau a drymiau bas. Nid yw’r adrannau Offerynnau Taro yn gyfyngedig i’r offerynnau hyn, fodd bynnag; fe gynhwysodd Tchaikovsky ganonau yn ei ddarn yr 1812 Overture, ac ysgrifennodd Verdi ar gyfer einionau yn Il trovatore. Wnewch chi ddim canfod canonau nac einion yn y rhan fwyaf o gerddorfeydd, ond un offeryn a ddefnyddir yn aml ac sy’n amlwg iawn yw’r drymiau timpani, sy’n cael eu harddangos yn y darn yma sy’n frwydr timpani heb ei hail yn Symphony No 4 Nielsen. Gallwch glywed y gwahanol draw yn eglur yn y darn a’r dyfnder a’r dwndwr maent yn ei ychwanegu i’r sain.  

Gobeithiwn fod y canllaw hwn wedi bod yn ddefnyddiol a’i fod yn gyflwyniad trylwyr i offerynnau’r gerddorfa. Os hoffech chi ddysgu mwy, ymunwch â’n cyflwynydd Tom Redmond a Cherddorfa WNO y Gwanwyn hwn am gyflwyniad hwyliog, ymlaciol i fyd yr opera a cherddoriaeth glasurol yn Chwarae Opera YN FYW. 

Gobeithiwn fod y canllaw hwn wedi bod yn ddefnyddiol a’i fod yn gyflwyniad trylwyr i offerynnau’r gerddorfa. Os hoffech chi ddysgu mwy, ymunwch â’n cyflwynydd Tom Redmond a Cherddorfa WNO y Gwanwyn hwn am gyflwyniad hwyliog, ymlaciol i fyd yr opera a cherddoriaeth glasurol yn Chwarae Opera YN FYW.