Newyddion

Y Gogarth – Llythyr cariad Owain Llwyd i Ogledd Cymru

10 Mehefin 2022

Photographer Matthew Thistlewood

Y mis hwn bydd Cerddorfa WNO yn dychwelyd i’r llwyfan, gan ymweld â gwahanol leoedd ledled Cymru fel rhan o’i thaith Dathliad Ganol Haf. Ochr yn ochr â gweithiau gan Gerald Finzi, Vaughan Williams a Mendelssohn, bydd y cyngerdd yn cynnwys comisiwn newydd gan y cerddor Cymreig Owain Llwyd, sef Y Gogarth. Cawsom air gyda’r cyfansoddwr i ddarganfod sut mae ein mamwlad yn ysbrydoli ei waith.

‘Roeddwn yn gwybod drwy gydol fy nghyfnod yn yr ysgol fy mod eisiau gwneud rhywbeth yn ymwneud â cherddoriaeth. Dechreuais gyfansoddi pan oeddwn yn 8 oed, ac erbyn imi gyrraedd 21 oed roeddwn wedi ennill Gwobr Prif Gyfansoddwr Eisteddfod yr Urdd deirgwaith a Gwobr Prif Gyfansoddwr yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith.

Mae natur wastad wedi bod yn ysbrydoliaeth i ’ngwaith cyngerdd. Mae Gogledd Cymru wedi chwarae rhan fawr yn fy mywyd a ’ngherddoriaeth bob amser. Hefyd, mae hanes Cymru o ddiddordeb mawr imi. Does dim gwahaniaeth ble yng Nghymru rydych chi’n byw, mae yna wastad Gastell o fewn cyrraedd. A dyna ichi’r iaith Gymraeg, wrth gwrs. Yn fy nhyb i, y Gymraeg yw’r iaith fwyaf cerddorol o blith yr ieithoedd i gyd.

Y prif beth a’m symbylodd i gyfansoddi Y Gogarth oedd yr olygfa o Fiwmares, Ynys Môn i gyfeiriad y Fenai, Eryri, Ynys Seiriol a’r Gogarth. O godiad yr haul hyd at ei fachlud, o’r cysyniad hyd at y cyfansoddi, roedd y Gogarth yn gwbl amlwg a llwyddodd i ysbrydoli pob agwedd ar y cyfansoddiad. Mae’r gwaith yn cynnwys tri symudiad, ac mae harmoni a strwythur yr holl symudiadau yn seiliedig ar fap uchder o’r Gogarth, lle lluniwyd y gerddoriaeth yn erbyn graff amser (hyd) ac allwedd piano. Gwelir bod pob crib yn amlinell tirwedd y Gogarth yn hawlio pwynt strwythurol pwysig (megis bar dwbl neu newid amsernod), yn ogystal â phennu cyfeiriad y gwaith creadigol.

  • O’r awyr

Gwefr siwrnai ddychmygol mewn car cebl uwchben ac o amgylch y pentir yw’r syniad sydd wrth wraidd y symudiad hwn. Ond mae nifer o weithgareddau antur eraill yn ardal y Gogarth wedi ysbrydoli’r symudiad hefyd – yn cynnwys y mynydd sgïo, gweithgareddau dŵr a seiclo, siwrnai’r tram a’r gwahanol lwybrau cerdded. Mae pawb sydd wedi cyrraedd y copa, ni waeth ym mha ffordd, yn gwybod pa mor serth a gogoneddus yw’r profiad.

  • O’r tir

Brasluniwyd yr ail symudiad ar feinciau picnic y Gogarth wrth edrych dros Eglwys Sant Tudno, i gyfeiriad y tyrbinau gwynt, a dyma yw calon emosiynol y gwaith. Mae’r profiad o fod ar y Gogarth wastad yn hudolus, yn gyfareddol ac yn gyfriniol i mi, a dyna sydd wrth wraidd awyrgylch y symudiad hwn. Tua diwedd y symudiad, daw’r offerynnau llinynnol i’r amlwg – dyma fy llythyr cariad i Ogledd Cymru.

  • Y Geifr Cashmiri

Geifr Llandudno yw testun y trydydd symudiad (a’r symudiad olaf). Dyma’r geifr a gafodd sylw mawr ar y we yn ystod y cyfnod clo cyntaf ar ôl iddynt ddechrau crwydro strydoedd gwag Llandudno. Cânt eu cyflwyno yn y fan hon fel creaduriaid digrif a phengaled eu natur. Mae’r symudiad yn agor gyda chwiban ffermwr sy’n rhagflaenu datganiad ffanffer o’r alaw Gymreig draddodiadol ‘Oes Gafr Eto?’.

Bydd Dathliad Ganol Haf yn ymweld â Bangor, y Drenewydd, Casnewydd a Chaerdydd rhwng 10-22 Mehefin