Opera Tutti

Mae Opera Tutti yn gyngerdd amlsynnwyr trochol i blant a phobl ifanc 5-19 oed gydag anawsterau dysgu lluosog (PMLD).

Yn cael ei berfformio gan grŵp bach o gerddorion a pherfformwyr medrus iawn, mae’r profiad cerddorol awr o hyd hwn yn dod â byd yr opera a cherddoriaeth glasurol i’r rhai sy’n methu mynychu theatrau, lleoliadau cerddoriaeth a digwyddiadau ar raddfa fawr.

Mae Opera Tutti yn mynd â phobl ifanc ar daith gerddorol drwy dymhorau’r flwyddyn drwy rai o ganeuon mwyaf poblogaidd y byd opera. Mae’r thema dymhorol yn darparu cyfle i archwilio ehangder naws a thempo: o ddeffroad tyner y gwanwyn i lawenydd ac afiaith yr haf; yna'r anghytgord a'r awyrgylch stormus a gynigir gan yr hydref yn dirwyn i ben i aeaf llonydd. Mae darparu’r naratif cerddorol yn cael ei ategu gan amrywiaeth o bropiau a gwisgoedd aml synnwyr, sydd wedi eu dylunio i ysgogi pobl ifanc i ymgysylltu.


Profiad anhygoel, synhwyraidd wedi’i gyflwyno gan gerddorion sensitif a thalentog

Athro yn Pens Meadow School

Roedd hi’n anhygoel gweld y pobl ifanc yn ymgysylltu ac yn ymateb yn lleisiol ac thrwy symudiadau, mynegiant yr wyneb ac ystumiau, llawer ohonynt nad oeddem wedi'u gweld o'r blaen. Mae dod â'r math hwn o gerddoriaeth i bobl ifanc mewn ffordd mor ysbrydoledig, agos-atoch ac emosiynol o fudd enfawr i'w lles addysgol ac emosiynol. Mae wir yn cyfoethogi eu bywydau.

Athro yn Ysgol Mary Elliot

Mae Opera Tutti yn gallu teithio i ysgolion arbennig sy’n gweithio gyda phobl ifanc gyda PMLD. Rydym hefyd wedi addasu Opera Tutti ar gyfer cynulleidfa SEND ehangach, sy’n addas ar gyfer theatrau bychain. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Sandra Taylor ar sandra.taylor@wno.org.uk