Newyddion

Blwyddyn ANHYGOEL o opera

20 Chwefror 2023

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi ein Tymor 2023/2024 ANHYGOEL, sy’n cynnwys pedwar o gynyrchiadau newydd, gyda thri ohonynt yn cael eu perfformio gan WNO am y tro cyntaf erioed.

Bydd ein Tymor yr Hydref 2023 yn dechrau gyda perfformiad cyntaf Cymru o waith y cyfansoddwr o’r Ariannin, Osvalso Golijov, sydd wedi ennill dwy wobr Grammy. Mewn galeidosgop drawiadol o opera a fflamenco, mae Ainadamar (Y Ffynnon Ddagrau) yn sioe wefreiddiol sy’n ail-ddychmygu bywyd ac etifeddiaeth y bardd a’r dramodydd o Sbaen Federico García Lorca, wedi’i chyfarwyddo gan y coreograffydd sydd wedi ennill Gwobr Olivier, Deborah Colker. Daw’r Tymor i ben gyda pherfformiadau o lwyfaniad clodfawr Syr David McVicar o stori boblogaidd Verdi o cariad rhwystredig, sgandal a hunanaberth - La traviata. I ategu’r Tymor, fe awn ar orymdaith i’r gofod gyda’n sioe ryngweithiol i’r teulu - Chwarae Opera YN FYW!

Dau gynhyrchiad newydd sbon sy’n ffurfio ein Tymor y Gwanwyn 2024, gan ddechrau gyda Così fan tutte Mozart, dan faton Cyfarwyddwr Cerddoriaeth WNO Tomáš Hanus. Bydd y stori ‘dyfod i oed’ yn cludo cynulleidfaoedd yn ôl i’r ysgol lle mae disgyblion y chweched ddosbarth yn darganfod yr elfennau da a drwg sy’n perthyn i ddisgyn mewn cariad. Cynhyrchiad newydd o Death in Venice gan Britten fydd yn cwblhau operâu’r Tymor, y tro cyntaf i ni lwyfannu’r opera hon. Bydd Olivia Fuchs yn dychwelyd i WNO i gyfarwyddo’r cynhyrchiad newydd hwn, lle gwelir harddwch hudolus yn ogystal ag ymgais i archwilio’r grotésg sy’n llechu dan yr ymchwil am yr aruchel. I gloi’r Tymor, cyngerdd Ffefrynnau Opera – cymysgedd operatig cwbl arbennig.

Mae ein Tymor yr Haf 2024 yng Nghaerdydd yn cynnwys gwledd operatig tri chwrs sy’n croesawu Arweinydd Llawryfog WNO Carlo Rizzi ar gyfer Il trittico gan Puccini, cyfres o operâu un act (Il tabarro; Suor Angelica; Gianni Schicchi), sy’n meddalu cenfigen, anobaith a thwyll.

Bydd y tocynnau’n mynd ar werth am 10am ar Mercher 1 Mawrth neu gallwch manteisio ar blaenoriaeth archebu o Mercher 22 Chwefror fel Cyfaill WNO.

Ar y llwyfan gyngerdd, bydd Cerddorfa WNO yn dychwelyd i Gyfres Caerdydd Glasurol yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd gyda dau gyngerdd. Bydd y cyntaf yn cynnwys Symffoni Gyntaf fendigedig Brahms, ynghyd ag Agorawd ffantasi Tchaikovsky, Romeo a Juliet, a’r Four Last Songs gan Richard Strauss, a genir gan y soprano Chen Reiss, dan arweiniad Cyfarwyddwr Cerddoriaeth WNO, Tomáš Hanus. Ar gyfer yr ail, bydd Corws WNO yn ymuno â Cherddorfa WNO i berfformio campwaith corawl tragwyddol Mozart, sef ei Alargerdd. Ymunwch a’n rhestr bostio i fod ymhlith y cyntaf i glywed pan fydd y cyngherddau yn mynd ar werth yn ddiweddarach yn y gwanwyn.

Mae ein rhaglen amrywiol o weithgarwch cymunedol ac ymgysylltu yn parhau. Bydd hyn yn cynnwys parhau â phrosiectau fel Lles gyda WNO, Brave - sef prosiect sy’n tynnu sylw plant at gam-fanteisio ar blant a chaethwasiaeth fodern mewn dull addas i’r oedran trwy gyfrwng cerddoriaeth, a Chôr Cysur. Yn dilyn ein gwaith llwyddiannus yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr, bydd Opera Tutti yn mynd ar daith yng Nghymru am y tro cyntaf, gydag aelodau o Gerddorfa WNO. Byddwn hefyd yn gweithio mewn cartrefi gofal ledled Gogledd Cymru er mwyn rhoi cyfle newydd i bobl glywed opera a cherddoriaeth glasurol – pobl na fyddai, o bosibl, yn gallu mynychu theatr neu eistedd trwy berfformiad.

Rydym yn edrych ymlaen at rannu llawer mwy o gerddoriaeth ANHYGOEL gyda chi yn 2023/2024.