Y Wasg

Aidan Lang yn ymgymryd â'i swydd fel Cyfarwyddwr Cyffredinol WNO

8 Gorffennaf 2019

Mae Cyfarwyddwr Cyffredinol newydd Opera Cenedlaethol Cymru, Aidan Lang, wedi cyrraedd Cymru o Seattle i ymgymryd â swydd uchaf y cwmni, yn uniongyrchol atebol i Gadeirydd a Bwrdd WNO ac wedi'i leoli yng nghartref WNO yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.

Nid dieithryn i WNO mo Lang, a gafodd ei eni ym Mhrydain, wedi iddo fod yn gyfarwyddwr staff y Cwmni yn yr 1980au a'r 1990au cynnar.  Mae'n ymgymryd â'r swydd newydd hon ar ôl ei swydd fel Cyfarwyddwr Cyffredinol Seattle Opera, swydd y mae wedi bod ynghlwm â hi ers 2014. Mae wedi symud i Gymru gyda'i wraig, y gantores a'r cyfarwyddwr Linda Kitchen, a'u merch, Eleanor.

Yn ei gyfnod yn Seattle Opera, llwyddodd Lang i gynyddu cynulleidfaoedd ar gyfer perfformiadau'r prif lwyfan o 67,000 yn ei dymor cyntaf i 85,000 yn y tymor sydd newydd fod.  Mae wedi bod yn rym sy'n annog cynulleidfaoedd ieuengach i ymweld ag opera yn Seattle, gyda chynulleidfaoedd milflwyddol yn cynyddu bedair gwaith yn ystod ei amser yno, ac mae 40% o brynwyr tocynnau Seattle Opera bellach dan 50 oed.  Mae wedi cyflawni hyn drwy ystod o ddulliau yn cynnwys rhaglenni addysg ac ymgysylltu eang, gan gomisiynu'r cyntaf o sawl opera siambr hynod lwyddiannus mewn lleoliadau ar draws y ddinas, a thrwy ddefnyddio opera i hwyluso sgyrsiau ynglŷn â themâu sy'n berthnasol i gymdeithas heddiw yn cynnwys hil, cyfiawnder a chynrychiolaeth.

Yn ei chwe blynedd yng Ngogledd Orllewin America, bu i Lang hefyd oruchwylio'r gwaith o greu cartref dinesig newydd o'r radd flaenaf i Seattle Opera wrth galon Seattle Center sy'n cynnwys man pwrpasol 20,000 troedfedd sgwâr ar gyfer rhaglennu ac addysg gymunedol.  Mae hefyd wedi gwneud partneriaethau newydd ar draws y diwydiant opera, yn cynnwys cynyrchiadau ar y cyd â Washington National Opera, San Francisco Opera, Santa Fe Opera, Glimmerglass Festival, Opera Philadelphia, Opera Queensland a New Zealand Opera.

Cyn ei rôl yn Seattle Opera, roedd Lang yn Gyfarwyddwr Cyffredinol New Zealand Opera o 2006 hyd at 2013. Yng nghyfnod Lang, cafodd New Zealand Opera fudd o gyfnod o dwf ac arloesedd cyson er gwaethaf heriau ariannol byd-eang. Bu iddo ehangu'r cwmni i gynnwys perfformiadau yn Christchurch am y tro cyntaf a chreodd weithdy cynhyrchu opera cyntaf Seland Newydd, gan sefydlu partneriaethau newydd a ffyrdd cydweithredol o weithio.

Ar ôl cyrraedd prifddinas Cymru, dywedodd Aidan Lang: "Rwyf wrth fy modd o fod yn ôl yng Nghymru, a gyda'r Cwmni lle dechreuodd fy ngyrfa opera go iawn. Mae'r gwerthoedd a'r weledigaeth ar gyfer opera sydd gan WNO wedi bod yn sylfaen fy ngyrfa gyfan, ac rwy'n wirioneddol edrych ymlaen at weithio gyda'r Bwrdd a'r Cwmni i greu gwaith sy'n uniaethu â bywydau pobl sy'n byw a gweithio yn y nifer o gymunedau amrywiol ledled Cymru a Lloegr."


Nodiadau i Olygyddion

  • Opera Cenedlaethol Cymru yw'r cwmni opera cenedlaethol ar gyfer Cymru. Ariennir WNO gan Gynghorau Celfyddydau Cymru a Lloegr i gyflwyno opera ar raddfa fawr ledled Cymru ac mewn dinasoedd mawr yn rhanbarthau Lloegr.
  • Mae lluniau cynyrchiadau WNO ar gael i’w lawrlwytho o http://www.wno.org.uk/press
  • Am ragor o wybodaeth, lluniau neu gyfweliadau, cysylltwch â Rachel Bowyer neu Penny James, Rheolwr y Wasg (rhannu swydd) ar 029 20635038 neu rachel.bowyer@wno.org.uk / penny.james@wno.org.uk neu Rhys Edwards, Swyddog y Wasg, ar 029 2063 5037 neu rhys.edwards@wno.org.uk