Mae Opera Cenedlaethol Cymru wedi cyhoeddi penodiad Catherine Cassidy-Dedics fel Cyfarwyddwr Gweithredol a Jo Walsh fel Cynhyrchydd Gweithredol, gan gryfhau'r uwch dîm arwain wrth iddo barhau i adeiladu cwmni opera’r dyfodol.
Ymuna Catherine â WNO o'r Jameel Arts & Health Lab, lle mae'n Gyfarwyddwr Byd-eang y Celfyddydau Iacháu ac yn Gyfarwyddwr Ymgysylltu Rhyngwladol, yn arwain rhaglenni a phartneriaethau rhyngwladol sy'n hyrwyddo effaith y celfyddydau a diwylliant ar iechyd a llesiant, gan ddylanwadu ar bolisi, ymchwil a newid yn y system.
Yn uwch arweinydd diwydiant diwylliannol gydag arbenigedd penodol mewn newid sefydliadol, ymgysylltu cymunedol a gwaith polisi, treuliodd Catherine 15 mlynedd fel Cyfarwyddwr Ymgysylltiad a Diwylliant Sefydliadol yn Scottish Ballet.
Fel Cyfarwyddwr Gweithredol, bydd Catherine yn dod â'r profiad helaeth hwn o arwain a'r profiad rhyngwladol i WNO, gan oruchwylio busnes a gweithrediadau'r Cwmni, a gweithio ar draws y sefydliad a gyda phartneriaid allanol allweddol a rhanddeiliaid i gefnogi ei uchelgais hirdymor.
Dywedodd Catherine: “Mae’n fraint cael ymuno ag Opera Cenedlaethol Cymru mewn cyfnod o drawsnewid a chyfleoedd. Gyda’n gilydd mae gennym y cyfle i ailddychmygu’r hyn all cwmni opera fod - gan barchu treftadaeth ragorol WNO wrth greu opera ar gyfer y dyfodol: yn uchelgeisiol yn artistig, gyda chysylltiad dwfn â’n cymunedau, ac yn berthnasol i gynulleidfaoedd ledled Cymru a thu hwnt.
“Mae gan WNO etifeddiaeth artistig anhygoel, ac rwy’n teimlo’n gyffrous i weithio gyda chydweithwyr, artistiaid, cynulleidfaoedd a phartneriaid i ddatblygu cwmni opera sy’n feiddgar, yn gynhwysol ac yn gynaliadwy ar gyfer cenedlaethau i ddod. Rwyf hefyd wrth fy modd yn cael symud i Gaerdydd, dinas gyda hunaniaeth ddiwylliannol hynod lewyrchus. Rwyf i a fy mhartner yn edrych ymlaen at ddod yn rhan o’i chymuned.”
Penodwyd Jo Walsh fel Cynhyrchydd Gweithredol, gan ddod â thros 20 mlynedd o brofiad cynhyrchu ar draws ffurfiau celfyddydol gan gynnwys theatr, dawns, digwyddiadau awyr agored ar raddfa fawr ac mewn safleoedd penodol ledled y DU ac yn rhyngwladol.
Yn arbenigo mewn gwaith newydd a thraws-ddisgyblaethol dan arweiniad artistiaid, yn ddiweddar bu Jo yn Bennaeth Cynhyrchu ar gyfer Theatr Genedlaethol yr Alban, gan oruchwylio'r ddarpariaeth o'u rhaglen artistig ddeinamig ac amrywiol. Mae ei swyddi cynhyrchu eraill yn cynnwys Gŵyl Ryngwladol Caeredin, Gŵyl Ryngwladol Manceinion a Sadlers Wells.
O fis Medi 2025, cwblhaodd Jo swydd lawrydd am bedwar mis fel Cynhyrchydd Gweithredol Ymgynghorol yn WNO, cyn dod yn Gynhyrchydd Gweithredol Dros Dro fis Ionawr 2026.
Bydd swydd Jo yn chwarae rhan ganolog wrth gyflawni gweledigaeth artistig newydd WNO, gan ddod â thimau ar draws y Cwmni ynghyd i Adran Artistig newydd, er mwyn creu dull mwy integredig i ddatblygu a chynhyrchu ei gwaith. Gyda phob rhan o gynhyrchion WNO wedi'u casglu dan un ymbarél (rhaglen graidd, cerddorfa, Ystafell Foiler ac ymgysylltiad), bydd Jo yn goruchwylio'r gwaith o greu a darparu rhaglen uchelgeisiol o’r radd flaenaf WNO wrth helpu i ddatblygu ffyrdd effeithlon a chynaliadwy o weithio.
“Mae’n bleser o’r mwyaf cael ymuno yn y swydd newydd hon ar adeg mor bwysig yn hanes WNO,” meddai Jo.
"Rwyf wedi bod wrth fy modd yn y Cwmni dros y 9 mis diwethaf yn gweithio gyda fy nghydweithwyr arbennig, sydd â chymaint o arbenigedd a brwdfrydedd tuag at y gelfyddyd o opera. Mae gan WNO le arbennig a phwysig iawn yn yr ecoleg gelfyddydol yng Nghymru. O dan arweinyddiaeth a gweledigaeth artistig Sarah ac Adele, credaf mai fan hyn fydd y lle mwyaf cyffrous i fod yn creu gwaith yn y DU.
"Rydym yn awyddus i chwyldroi sut y caiff opera ei greu ac adeiladu cwmni opera’r dyfodol. Mae’n fraint cael cais i ymuno ag WNO fel Cynhyrchydd Gweithredol ac rwy’n edrych ymlaen at barhau i weithio gyda’r tîm er mwyn gwneud yr uchelgais yn realiti.”
Dywedodd Cyd-gyfarwyddwyr Cyffredinol a Phrif Swyddogion Gweithredol WNO, Adele Thomas a Sarah Crabtree: “Rydym wrth ein bodd yn croesawu Catherine a Jo i’r ddwy swydd arweinyddiaeth hanfodol hyn. Dônt ag ystod o brofiadau rhagorol, ffordd newydd o feddwl, a chred gyffredin yng ngrym trawsnewidiol y celfyddydau.
"Mae adeiladu cwmni opera’r dyfodol yn golygu sicrhau bod gweledigaeth artistig yn cael cefnogaeth sefydliad sy’n gydweithredol, gwydn ac mewn sefyllfa i ymateb i dirwedd ddiwylliannol sy’n newid yn gyflym. Bydd meddylfryd rhyngwladol a phrofiad helaeth o arweinyddiaeth sefydliadol Catherine, ynghyd ag arbenigedd cynhyrchu creadigol Jo, yn werthfawr iawn wrth i ni barhau i newid sut mae WNO yn gweithio a sut ydym yn gwneud ac yn rhannu ein celfyddyd.
"Bydd Catherine a Jo yn rhan annatod o sicrhau ein bod yn cyflawni ein gweledigaeth am gwmni opera cenedlaethol cyfoes, beiddgar - wedi’i wreiddio’n falch yng Nghymru, yn uchelgeisiol yn ei agwedd ac yn creu gwaith o’r radd flaenaf sy’n apelio i gynulleidfaoedd heddiw ac i’r dyfodol.”
DIWEDD.
Neil Collins
Arweinydd Cyfathrebu Strategol
Opera Cenedlaethol Cymru
neil.collins@wno.org.uk 02920 635 087 / 079 7154 1068