Cafodd Alastair Moore ei hyfforddi yn y Guildhall School of Music & Drama a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Cyn ymuno â WNO, bu Alastair yn gweithio fel canwr llawrydd yn Llundain. Mae ei uchafbwyntiau personol gyda WNO hyd yma’n cynnwys perfformio yn Lohengrin a Kiss Me, Kate. Y tu hwnt i WNO, mae Alastair yn mwynhau canu’r piano, coginio, cerdded, darllen, cefnogi Clwb Pêl-droed Lerpwl a threulio amser gyda’r teulu.
Gwaith diweddar: Marullo Rigoletto (WNO)