Cwrdd â WNO

Alex Brok

Ganed Alex yn yr Iseldiroedd ac mae wedi hyfforddi mewn Dylunio Theatr yn Ysgol Gelf Amsterdam, cyn gadael am Brifysgol Stanford yng Nghaliffornia. Yno, bu’n dysgu Dylunio Goleuo a chynlluniodd amrywiol gynyrchiadau o fewn yr adran theatr gan gynnwys A Midsummer Night’s Dream, End Game a The Threepenny Opera. Aeth ymlaen i weithio i The San Francisco Opera ar sawl cynhyrchiad. Yn ystod ei amser yn yr Unol Daleithiau, cafodd un o’i ddyluniadau ei ddewis i’w arddangos yn y Prague Quadrennial of Design & Space yn 2003. Yn ddiweddarach dychwelodd i’r Iseldiroedd gan weithio fel Dylunydd Goleuo ar gyfer nifer o gynyrchiadau opera, theatr a dawns ar draws Ewrop. Yn y blynyddoedd diwethaf, cymerodd rôl Dylunydd Goleuo preswyl yn y Vilksoper yn Fienna.

Drwy gydol ei yrfa, mae Alex wedi gweithio gyda phrif gyfarwyddwyr a choreograffwyr ac wedi gwireddu cysyniadau crëwyr golygfeydd mewn cynyrchiadau gan gynnwys: The Marriage of Figaro, Don Giovanni, West Side Story, Carmen, The Elixir of Love, The Magic Flute, Where the Wild Things Are, Death in Venice, Dido and Aeneas, Hansel and Gretel,The Cunning Little Vixen, La bohème, Jenůfa, The Flying Dutchman, The Barber of Seville, a Lulu.

Mae cydnabyddiaethau diweddar yn cynnwys: Il Trittico (Opera Gwladwriaeth Bafaria); Don Carlos (Opera Gwladwriaeth Stuttgart); Aida (Opéra Bastille); Così fan tutte (Teatro del Maggio Musicale, Florence); Dubarry, The White Horse Inn (Vienna Volksoper); and Drive Your Plow Over the Bones of the Dead (Dailes Theatre, Riga - a enwebwyd ar gyfer pum gwobr theatr Latfiaidd).

Mae prosiectau sydd ar y gweill yn cynnwys: Cinderella, Spring Awakening (Vienna Volksoper); The Cunning little Vixen (Dutch Touring Opera); The Fountainhead (Dailes Theatre, Riga); The Flying Dutchman (Opera Genedlaethol Iseldiraidd); a Der Rosenkavalier (Opera Genedlaethol Latfia).