Cwrdd â WNO

Alexia Voulgaridou

Dechreuodd Alexia Voulgaridou ei hastudiaethau cerddorol yn Athens gan barhau yn y Conservatory yn Munich. Gwnaeth ei hymddangosiad proffesiynol cyntaf fel Susanna yn Le nozze di Figaro dan arweiniad Syr Colin Davis. Yn yr Eidal, cafodd wahoddiad i'r Ravenna Festival ar gyfer Faust ac ar gyfer perfformiadau cyngerdd o Mefistofele dan arweiniad Riccardo Muti, y mae wedi perfformio Requiem Verdi gydag ef hefyd. Gwnaeth Alexia ei hymddangosiad cyntaf gydag Berlin State Opera fel Mimi yn La bohème gyda Jonas Kaufmann dan arweinaid Gustavo Dudamel.

Gwaith diweddar: Cio-Cio-San Madam Butterfly (WNO)