Cwrdd â WNO

Amy J Payne

Cafodd Amy J Payne ei geni yn ne Dyfnaint ac mae hi’n byw yn Leeds. Hyfforddodd mewn astudiaethau llafar ac opera yn Ysgol Cerdd a Drama’r Guildhall ac mae ganddi radd anrhydedd mewn Ffrangeg ac Almaeneg o King’s College, Llundain, lle roedd hi hefyd yn ysgolhaig gorawl. Bu’n gweithio i amryw o gwmniau opera mwyaf blaenllaw’r DU gan gynnwys Opera North, Garsington Opera, Birmingham Opera Company, Opera Canolbarth Cymru ac Iford Arts. Mae hi wrth ei bodd cael ymddangos am y tro cyntaf gyda WNO fel Yr Hen Fenyw yn Candide.

Gwaith diweddar: Ruth The Pirates of Penzance (The National Gilbert & Sullivan Opera Company), Olga The Merry Widow (Scottish Opera/Opera Holland Park/D’Oyly Carte), Bobylikha The Snowmaiden, Mezzo-Soprano Do not take my story for a Fairytale (English Touring Opera), Dame Carruthers The Yeomen of the Guard (Opera Holland Park/Charles Court Opera).