Cwrdd â WNO

Anne Mason

Ganed Anne Mason yn Swydd Lincoln ac astudiodd yn y Royal Academy of Music a’r National Opera Studio. Dechreuodd ei gyrfa yng Nghorws WNO ac aeth ymlaen i wneud ei debut yn y Royal Opera House fel Emilia Otello. Creodd rôl Minsk Woman yn Flight yn Glyndebourne ac mae hi wedi perfformio nifer o rolau yn y ROH, ENO, Scottish Opera, Teatro Real Madrid, Gran Teatre del Liceu Barcelona, Dutch National Opera, Aix en Provence Festival, Semperoper Dresden, Opéra de Lille, Opéra national du Rhin, Opera Ballet Vlaanderen, Aldeburgh Festival ac Opera Holland Park. Mae ei rolau wedi cynnwys Kostelnička Jenůfa, Fricka Das Rheingold a Die Walküre, Azuecena Il trovatore ac yn fwyaf diweddar Mrs De Rocher yn Dead Man Walking WNO. Gwnaethpwyd yn Gymrawd y Royal Academy of Music yn 2008.