Cwrdd â WNO

Anya Birchall

Feiolin Gyntaf Tutti

Athrawes feiolín gyntaf Anya oedd ei mam, cyn mynd yn ei blaen i’r Junior Guildhall ac i astudio ym Madrid, Sbaen. Yn olaf, astudiodd yn yr Royal Academy of Music, Llundain.

Cyn ymuno â WNO, dilynodd Anya yrfa amrywiol a ddiddorol yn gerddor llawrydd. Mae hi wedi chwarae gyda Britten Sinfonia, yr English Chamber Orchestra, y Royal Philharmonic Orchestra, Bournemouth Symphony Orchestra a Cherddorfa Ffilharmonig yr English National Ballet. Yn fwy diweddar, chwaraeodd yng ngherddorfa Glyndebourne Touring Opera, a sioeau yn y West End sy’n cynnwys Charlie and the Chocolate Factory.

Bu Anya’n gweithio i Live Music Now! a Superact. Mae hi wedi perfformio mewn deuawd feiolín yn dwyn y teitl ‘Fiddlesticks’. Maen nhw yn cyflawni gwaith addysgiadol allgymorth a chwarae mewn cyngherddau mewn ysgolion, ysbytai a charchardai. Mae hi wedi mwynhau dysgu erioed ac mae’n dysgu’r feiolín ar hyn o bryd yn ysgol y Grey Coat Hospital, Westminster, Llundain.

Ymhlith uchafbwyntiau personol Anya gyda WNO hyd yma y mae Der Rosenkavalier, Tosca a’r daith ddiweddar i Hong Kong.