Biagio Pizzuti
Trosolwg
Ganwyd Biagio Pizzuti yn Salerno a dechreuodd ei astudiaethau piano yn wyth oed gan raddio mewn astudiaethau piano a lleisiol gyda’r marc uchaf o'r Martucci School of Music yn Salerno; fe gwblhaodd radd hefyd mewn Fferylliaeth ym Mhrifysgol Salerno ar yr un pryd. Mynychodd yr Opera Studio yn Academy Santa Cecilia yn Rhufain dan arweinyddiaeth Renata Scotto ac yn ddiweddarach ymunodd â’r Opera Ensemble yn Teatro Carlo Felice yn Genova gan ymddangos am y tro cyntaf yn Gianni Schicchi a La bohème fel Marcello a Schaunard. Mae wedi perfformio mewn amryw o rolau bariton mewn tai opera yn Vienna, Paris, Palermo, Verona, Glyndebourne a Florence. Bydd yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf gyda WNO fel Nottingham yn Roberto Devereux.
Gwaith diweddar: Leporello Don Giovanni (Filarmonico Verona); Dandini La Cenerentola (Maggio Musicale); Belcore Don Pasquale (Glyndebourne)