Cwrdd â WNO

Carolyn Jackson

Mezzo

Mae gan Carolyn Ddiploma gan yr Royal Northern College of Music, Manceinion.

Cyn ymuno â WNO, roedd yn aelod o gorws Scottish Opera am dair blynedd cyn troi ei llaw at fod yn gantores lawrydd yn y DU a thros y môr.

Un o uchafbwyntiau personol Carolyn hyd yma gyda WNO yw perfformio rhan Mr Mole yn The Cunning Little Vixen: ‘Dyma oedd yr opera gyntaf i’m mab ieuengaf ei gweld ac mae ef wedi llyncu’r abwyd ers hynny!’

Diddordebau Carolyn y tu hwnt i WNO yw cadw’n heini, rhedeg a chwarae badminton. Mae hi’n dysgu Cymraeg er mwyn dal i fyny gyda gweddill y teulu. Mae hi’n mwynhau bod yn greadigol gyda gweu a chrosio.