Cwrdd â WNO
Christopher Glynn
Trosolwg
Mae Christopher Glynn yn bianydd ac yn gyfeilydd arobryn sy'n cydweithio'n rheolaidd â llawer o brif gantorion ac offerynwyr y byd. Comisiynodd Jeremy Sams yn ddiweddar i greu cyfieithiadau Saesneg newydd o gylchoedd caneuon Schubert sydd wedi'u recordio ar gyfer Signum Records. Chris yw Cyfarwyddwr Artistig Gŵyl Ryedale ac mae'n athro yn y Royal Academy of Music.
Gwaith ar y gweill: Perfformiadau gydag artistiaid gan gynnwys Roderick Williams, Rachel Podger ac Ian Bostridge ac mewn lleoliadau fel y Concertgebouw a Wigmore Hall, yn ogystal â recordiadau gyda Nicky Spence, Kathryn Rudge, Claire Booth, prosiect gyda Streetwise Opera a thaith gyda Llyfr Caneuon Eidalaidd Wolf.