Cwrdd â WNO

Clare Pillman

Clare Pillman yw Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).  Ymunodd â CNC yn 2018 yn dilyn gyrfa hir mewn gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru a Whitehall.  O 2011 hyd at 2018 hi oedd Cyfarwyddwr Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth yr Adran dros Ddiwylliant y Cyfryngau a Chwaraeon, gan arwain gwaith ar yr Olympiad Diwylliannol a choffadwriaethau Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf.  Cyn hynny roedd hi’n Gyfarwyddwr Gwasanaeth Llysoedd Cymru ei Mawrhydi, a cyn hynny treuliodd amser yn Adran Treftadaeth Genedlaethol, y Trysorlys, Swyddfa’r Cabinet ac Adran Materion Cyfansoddiadol.  Roedd Clare yn Ymddiriedolwr Sefydliad Ymchwil Canser am 10 mlynedd, ac wedi gwasanaethu ar Fyrddau Theatr Genedlaethol Cymru a 14-18 Now.