Cwrdd â WNO

Daniel Evans

Ganwyd Daniel Evans yn Ne Cymru a chafodd ei hyfforddi yn y Guildhall School of Music and Drama.  Bu'n gweithio fel actor gyda’r National Theatre, RSC, Royal Court, Donmar Warehouse ac eraill, cyn dod yn Gyfarwyddwr Artistig Theatrau Sheffield (2009-16) ble cynhyrchodd dros 90 o gynyrchiadau. Yn 2016, fe'i penodwyd yn Gyfarwyddwr Artistig Theatr Gŵyl Chichester. Mae'n actor sydd wedi ennill dwy wobr Olivier, yn Gymrawd o Ysgol y Guildhall, yn Ddoethur Anrhydeddus Prifysgol Sheffield Hallam, ac mae’n siaradwr Cymraeg.