Cwrdd â WNO

Daniel Norman

Mae Dan Norman yn byw yn Rhydychen, lle bu’n ysgolor corawl yn New College, Oxford. Yn ystod ei gyfnod yn Rhydychen astudiodd Beirianneg, gan fynd ymlaen wedyn i astudio yn yr Unol Daleithiau a Chanada, a’r Royal Academy of Music. Bu Dan yn gweithio gydag English National Opera, Royal Opera House, L’Opéra National de Paris, Bayerische Staatsoper, Bergen National Opera, Fondazione di Arena di Verona ac Opera Boston. O ran llwyfannau cyngherddau, bu’n perfformio gyda Het Gelders Orkest, Mahler Chamber Orchestra, Philharmonia Taiwan, a Cherddorfa Siambr Gwlad Belg; gydag ymddangosiadau yn Proms y BBC, Three Choirs Festival, Gwyl Aldeburgh, a Gŵyl Lieder Rhydychen.

Gwaith diweddar a’r dyfodol: Sellem The Rake’s Progress (Glyndebourne on Tour); Chairman Mao Nixon in China (Staatstheater Hannover); Kaliboul Barkouff and Pirelli Sweeney Todd (Opera Zurich).