Cwrdd â WNO

Daniel Rye

Is-Brif Chwaraewr Clarinét

Astudiodd Daniel Gerddoriaeth yn Cambridge University, a dilynodd gwrs ôl-radd yn y Guildhall School of Music and Drama.

Cyn ymuno â WNO, bu Daniel yn gweithio i gerddorfeydd yn Ffrainc a Norwy a bu’n athro cerdd a cherddor yn Ynysoedd y Faroe.

Un o uchafbwyntiau personol Daniel gyda WNO hyd yma yw operâu Wagner gyda Lothar Koenigs, yn arbennig Die Meistersinger gyda Syr Bryn Terfel fel Hans Sachs.

Diddordeb Daniel y tu hwnt i WNO yw teithio yng ngwledydd Nordig gan ei fod â ddiddordeb mawr yn y gerddoriaeth a’r diwylliant: ‘Ynysoedd y Faroe yw’r lle rwyf yn ymweld amlaf, a bob haf byddaf yn cymryd rhan yn y bywyd cerddorol cyfoethog yno.’