Cwrdd â WNO

Duncan Rock

Astudiodd y bariton Duncan Rock yn y Guildhall School of Music and Drama cyn mynd ymlaen i’r National Opera Studio. Yn prysur sefydlu ei hun fel canwr a pherfformiwr ifanc syfrdanol, roedd Duncan yn Artist Ifanc gyda Gŵyl Glyndebourne a derbyniodd y John Christie Award yn 2010. Hefyd, enillodd y Chilcott Award yn 2012 – y wobr gyntaf o ysgoloriaeth Susan Chilcott, i gefnogi ‘artist sylweddol ifanc sydd â’r potensial i gael dylanwad rhyngwladol’.

Gwaith diweddar: prif ran Don Giovanni (Glyndebourne Opera); Schaunard La bohème (Royal Opera, Llundain, Metropolitan Opera, Efrog Newydd); Marcello La bohème (English National Opera, Opera North)