Cwrdd â WNO

Gareth Jones

Roedd Gareth Jones yn aelod o Staff Cerdd WNO o 1990-2008. Yn 1996 ffurfiodd Sinfonia Cymru, sydd yn y blynyddoedd diwethaf wedi sefydlu ei hun fel prif gerddorfa siambr Cymru. Mae ei waith cyngerdd yn y Deyrnas Unedig yn cynnwys ymddangosiadau gyda’r Hallè Orchestra, y Royal Scottish National Orchestra a’r Royal Philharmonic Orchestra, ac mae wedi gweithio gyda Bryn Terfel ar sawl prosiect.

Gwaith diweddar: Arweinydd The Magic Flute (RWCMD); Tosca (Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen); The Pirates of Penzance (ENO)