
Cwrdd â WNO
Gary Watkins
Wedi’i eni yn Ne Cymru, dechreuodd Gary ei hyfforddiant lleisiol pan oedd yn swyddog yn Heddlu De Cymru. Astudiodd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru dan hyfforddiant Zoe Cresswell, gydag astudiaethau pellach dan Gerald Davies, Nicolai Gedda a Peggy Trauman. Ymunodd Gary â Chorws WNO fel tenor ac mae wedi canu mewn dros 70 o operâu. Mae’n dychwelyd yn aml i ganu yn y Corws Ychwanegol.