Ganwyd George yng Ngwlad yr Haf ac astudiodd Gerddoriaeth ym Mhrifysgol Birmingham. Wedi’i arfogi â gradd Anrhydedd Dosbarth 1af, gadawodd am oleuadau llachar ac ysblander Llundain. Ar ôl sawl swydd ddiddorol, yn cynnwys canu lleisiau ategol i sêr pop, sioeau West End ac amrywiaeth o gigiau, yn y pen draw ymunodd â Chorws WNO.
Yn ei amser hamdden, mae George yn mwynhau mynychu’r Sparkles Show Bar a chefnogi ei ffrind Ms Vanity Case!
Mae ei rolau yn WNO yn cynnwys: Sciarrone Tosca, Swyddog | Don Issacher Candide, Gwas Flora | Y Negesydd La traviata, Gwneuthurwr Wigiau Ariadne auf Naxos.
