Cwrdd â WNO

Gerallt Jones

Wedi’i eni yng Nghaerdydd a’i addysgu yn Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf, Coleg yr Iesu Rhydychen a’r College of Law, Caer, mae Gerallt Jones yn bartner ac yn Bennaeth Cyfraith Gorfforaethol a Masnachol Hugh James, cwmni cyfraith sydd ymhlith 100 Uchaf y DU. Ers ymuno â Hugh James yn 2005, mae Gerallt wedi cynghori cleientiaid gan gynnwys Llywodraeth Cymru, Undeb Rygbi Cymru, Princes Gate Water, Rygbi Caerdydd ac SA Brain & Co. Yn flaenorol treuliodd Gerallt 12 mlynedd yn gweithio yn Llundain a Hong Kong yn arwain y cwmnïau cyfreithiol rhyngwladol Slaughter & May a Freshfields. Mae Gerallt yn siaradwr Cymraeg rhugl ac yn ymddiriedolwr Cardiff Museum Development Trust.