Cwrdd â WNO

Harriet Feilding

Ar ôl cymhwyso fel Cyfrifydd Siartredig, penodwyd Harriet yn Gyfarwyddwr Cyllid English National Opera yn y 1990au. Mae ei rolau dilynol wedi cynnwys Cyfarwyddwr yn Gyfrifol am Gyfrifon Cleientiaid yn Sotheby’s yn ogystal â Bwrsar i dair ysgol annibynnol. Mae hi hefyd yn Brif Swyddog Ariannol i grŵp o gwmnïau sy’n diogelu ac yn gweithredu ystod eang o asedau rheilffyrdd treftadaeth, gan gynnwys casgliad o locomotifau stêm, a chynnal amserlen brysur o deithiau rheilffyrdd prif linell.

Ers gadael ENO mae Harriet wedi cael llawer o rolau anweithredol mewn sefydliadau celfyddydol a threftadaeth. Ar hyn o bryd mae hi’n Is-Gadeirydd a Thrysorydd y Wiltshire Music Centre Trust, neuadd gyngerdd yn Bradford on Avon, Wiltshire, lle mae hi’n byw.