Cwrdd â WNO
Harry Ogg
Trosolwg
Mae Harry Ogg yn Arweinydd Cyswllt WNO mewn cydweithrediad â Chystadleuaeth Arwain Donatella Flick-LSO. Mae hefyd yn gweithio fel Musikalischer Assistent des Gürzenich-Kapellmeisters i François-Xavier Roth yn y Gürzenich Orchester Köln. Yn mis Mawrth 2018, cafodd ei ddewis ar gyfer y Deutsche Dirigentenforum ac enillodd yr 2il Wobr yn yr MDR Leipzig Symphony Orchestra Conducting Competition.
Gwaith diweddar: Mae Harry wedi gweithio gyda’r Bergen Philharmonic Orchestra (yn cynorthwyo Edward Gardner), Hallé Orchestra, London Mozart Players a’r North Czech Philharmonic Orchestra yn ogystal ag arwain y Zürich Tonhalle Orchestra mewn dosbarth meistr gyda David Zinman.