Cwrdd â WNO

Helen Jarmany

Mezzo

Astudiodd Helen yn y Royal Northern College of Music, gyda chefnogaeth Ysgoloriaeth Annie Ridyard a Gwobr Mynediad Dora Elizabeth Chappell. 

Dechreuodd gyrfa Helen yn y Glyndebourne Festival Opera, lle canodd rôl Y Westeiwraig yn Boris Godunov (Night Pieces) ar gyfer eu Prosiect Jerwood. Ymddangosodd Helen am y tro cyntaf gydag ENO yn 28 oed fel Ail Wrach yn After Dido (Dido & Aeneas) a chwaraeodd lawer o rolau mawr i ENO a Glyndebourne cyn ymuno ag WNO yn 2013. 

Mae Helen wedi canu nifer fawr o rolau i WNO. Y rhai mwyaf cofiadwy yw’r Mad Hatter | Y Fam yn Alice’s Adventures in Wonderland, Olga yn Eugene Onegin a Suzuki yn Madam Butterfly, lle dywedodd Opera Wire ei bod yn arddangos “Rhagoriaeth Operatig”. 

Mae Helen hefyd yn frwd dros lesiant ac yn addysgu dosbarth Ioga Hatha lleol yn ogystal â chynnig Ioga i gantorion ac artistiaid perfformio.

Gwaith diweddar: Dafad 2 Candide, Mistress of Novices Suor Angelica (Il trittico), unawdydd Mezzo Soprano Ffefrynnau Opera, Flora La traviata (y cyfan gydag WNO).