Cwrdd â WNO

Henry Waddington

Astudiodd Henry Waddington yn y Royal Northern College of Music. Mae wedi canu'n rheolaidd gyda'r holl gwmnïau opera mawr yn y DU yn ogystal â chyda La Monnaie Brussels, Liceu Barcelona, de Nederlandse Opera, Teatro Real Madrid a Stuttgart Staatstheater. Ac yntau wedi'i enwebu am y wobr Cantor Gorau yn y International Opera Awards yn 2016, mae repertoire operatig Henry yn eang.

Gwaith diweddar: Gobrias Belshazzar (The Grange Festival); Baron Ochs Der Rosenkavalier (Norwegian National Opera); Falstaff Falstaff (Garsington Opera)