Cwrdd â WNO

Huw Llywelyn

Tenor

Astudiodd Huw Llywelyn yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ac yna yn Ysgol Opera Ryngwladol Benjamin Britten y Coleg Cerdd Brenhinol.

Cyn ymuno â WNO roedd Huw yn athro canu ym Mhrifysgol Bangor, Coleg Menai ac yng Nghanolfan Gerdd William Mathias. Gweithiodd yn helaeth hefyd i adran Ieuenctid a Chymuned WNO gan roi cyngherddau, arwain gweithdai ysgolion, digwyddiadau Dewch i Ganu ac ef oedd arbenigwr llais Opera Ieuenctid yng Ngogledd Cymru. Roedd hefyd yn gapten tîm i Only Boys Aloud.

Ar ôl bod yn aelod o'r Corws o'r blaen, uchafbwynt personol i Huw yw bod yn ôl gyda WNO: 'Mae'n bleser cael bod yn ôl. Mae gan bob diwrnod ei uchafbwynt ei hun. Rwy'n ffodus iawn fy mod yn cael gwneud swydd mor unigryw gyda chydweithwyr a chyfeillion mor dalentog.'

Yn ei amser sbâr mae Huw yn mwynhau rhedeg a beicio. Mae'n mwynhau gwrando ar lawer genre o gerddoriaeth yn ogystal ag opera, megis cerddoriaeth roc a metel, mae ef hefyd yn gitarydd trydan brwd.