Cwrdd â WNO

Innocent Masuku

Mae’r tenor operatig Innocent Masuku, a gyrhaeddodd rownd derfynol Britain’s Got Talent yn 2024 yn ennill clod byd-eang am ei lais emosiynol. Mae ei sengl gyntaf, sydd ar gael ar bob llwyfan digidol mawr, yn cyfuno cyfansoddiadau gwreiddiol â chlasuron wedi’u hail-ddychmygu, gan ymgorffori dylanwadau o’i dreftadaeth a’i gefndir operatig yn Ne Affrica. Yn gyn-aelod o Opera Cape Town ac aelod presennol o ENO, mae Innocent wedi perfformio mewn cynyrchiadau nodedig yn cynnwys Porgy and Bess, Rigoletto a The Magic Flute. Mae ef wedi derbyn sawl gwobr, gan gynnwys dosbarthiadau meistr gyda’r Maestro Kamal Khan ac Willard White, a gwobrau megis y Wobr Teilyngdod yng nghystadleuaeth SAMRO 2019, Gwobr Ymddiriedolaeth Drake Calleja ac Ysgoloriaeth Ryngwladol Oppenheimer. Ar hyn o bryd mae'n gweithio gydag Opera Garsington yn perfformio rôl Eurimaco yn The Return of Ulysses gan Monteverdi.