
Jack Furness
Jack Furness, y cyfarwyddwr llwyfan o Gymru, yw Cyfarwyddwr Artistig Shadwell. Mae ei waith yn amrywio o’r sioeau stiwdio lleiaf i’r operâu crand mwyaf, ac mae’n canolbwyntio’n arbennig ar operâu cyfoes, gan fynd ati hefyd i ailddehongli gweithiau cyfansoddwyr sy’n amrywio o Handel i Stravinsky. Ac yntau wedi astudio cerddoriaeth yn y brifysgol, daw â dylanwad cerddorol ar bopeth a wna. Hefyd, mae wedi creu cysylltiadau cryf rhwng ei waith yn y byd opera a gwaith ymgysylltu gyda chymunedau a gwaith ieuenctid. Ochr yn ochr â’i waith fel cyfarwyddwr, mae Jack hefyd yn ddylunydd ac mae wedi datblygu diddordeb mewn dylunio fideo gyda sioeau arbennig. Mae ei rolau cyfarwyddo diweddar yn cynnwys Aci, Galatea e Polifemo (Gŵyl Handel Llundain), The Snow Maiden (Coleg Cerdd Brenhinol y Gogledd), Faust (Opera Cenedlaethol Iwerddon), Il re pastore (Gŵyl Ryngwladol Buxton) Candide (Opera yr Alban); Rusalka (Garsington Opera, Gŵyl Ryngwladol Caeredin); Don Giovanni (Nevill Holt Opera); GianniSchicchi (Gŵyl Opera Copenhagen); DidoandAeneas (Yr Academi Gerdd Frenhinol); adfywiad o gynhyrchiad David McVicar o Carmen (Dallas Opera); adfywiad o gynhyrchiad Kasper Holten o Don Giovanni (ROH); Le nozzedi Figaro, Così fan tutte a Don Giovanni (Teatru Manoel, Malta); Written on Skin a LessonsinLove and Violence (Melos Sinfonia yn St Petersburg); a Hanseland Gretel gan Humperdinck (Gŵyl Wexford).