Cwrdd â WNO

James Clarke

James sy'n rheoli'r stiwdios recordio a'r label recordio yn Tŷ Cerdd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd. Mae wedi peiriannu, cymysgu a chynhyrchu recordiau ar gyfer artistiaid fel John Paul Jones, Rebecca Evans, Rufus Wainwright, Cerys Matthews, Luke Evans, Iwan Rheon a Jem ar ran amrywiaeth o labeli recordio gan gynnwys Deutsche Grammophon, Decca, Sony, EMI a Naxos.

Gwaith diweddar: Der Ring des Nibelungen (Hong Kong Philharmonic Orchestra, Jaap Van Zweden); Tylwyth (Daf James); Cinema Paradiso (Katherine Jenkins)