Cwrdd â WNO

Jennifer Tipton

Ganwyd Jennifer Tipton yn Ohio ac astudiodd yn Cornell University. Aeth ymlaen i fod yn gynorthwyydd i Thomas Skelton y cyfarwyddwr goleuo dawns a gweithiodd ar ei dyluniad goleuo Broadway cyntaf ym 1969 ar gyfer Old Town. Daeth Jennifer yn Athro Dylunio yn Yale School of Drama ym 1981. Enillodd sawl Gwobr Tony a Drama Desk, Gwobr Jerome Robbins a Gwobr Dorothy a Lillian Gish. Yn 2008, fe’i dyfarnwyd â Chymrodoriaeth Gracie a Chymrodoriaeth MacArthur yn yr UDA. Yn ddiweddar bu Jennifer yn creu ei gosodiad ei hun, Our Days and Night, yng Nghanolfan Gelf Baryshnikov.  

Gwaith diweddar:Pictures From Home (Broadway), Intimate Apparel (Lincoln Centre Mitzi Newhouse Theater), Somewhere in the Middle and Dreammachine (Paul Taylor Company).