Cwrdd â WNO

Jennifer Walker

Mae Jennifer wedi perfformio'n unigol yn nifer o leoliadau cyngerdd blaenllaw'r DU, ac wedi recordio nifer o unawdau ar gyfer BBC Radio 3, yn cynnwys Y Foneddiges Gyntaf yn Die Zauberflöte, Hymn to St Cecilia gan Britten, ac yn fwy diweddar ei A.M.D.G. Mae rolau operatig yn cynnwys y brif rôl ym mherfformiad cyntaf The Tailor's Daughter gan Brian Irvine ar gyfer Opera Ieuenctid WNO, y brif rôl yn Cendrillon  RWCMD, Denise yn Véronique gan Messager ar gyfer Gŵyl Opera Buxton, a Cousin yn Madama Butterfly ar gyfer Grange Park Opera.