Mae Julian wedi hyfforddi fel pen-gogydd. Gweithiodd fel athro cynradd a bu’n athro cerdd a drama mewn ysgol uwchradd.
Enillodd Julian ysgoloriaeth ganu gan University of Kent, Caergaint cyn astudio ar gyfer Diploma Uwch (llais) yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Mae ganddo Radd gan British Youth Opera ac Ysgol Opera (Cymru).
Yn unawdydd llawrydd, mae Julian wedi gweithio gyda chwmni London City Opera, Opera Dinas Abertawe ac Opera Box.
Un o uchafbwyntiau personol Julian gyda WNO hyd yma yw chwarae rhan y Ci yn The Cunning Little Vixen.
Y tu allan i WNO, mae Julian yn organydd eglwys. Mae’n gwneud ei ddillad a’i wisgoedd ei hun, yn coginio ac yn trefnu cyngherddau i elusennau gyda Volante Opera Productions