Cwrdd â WNO

Kayleigh Decker

Yn ddiweddar, gorffennodd Kayleigh ei hamser fel aelod o ensemble The Patrick G and Shirley W Ryan Opera Center yn Lyric Opera of Chicago lle'r oedd ei rolau yn cynnwys ei debut fel Ail Fenyw Gretaidd Idomeneo, Kate Pinkerton Madama Butterfly a rolau dirprwy, yn cynnwys Le Prince Charmant Cendrillon a Rosina The Barber of Seville. Ymhlith rolau eraill Kayleigh, sy'n gyn-fyfyriwr o Cincinnati College-Conservatory of Music a'r Oberlin Conservatory, mae’r brif ran La Cenerentola  (Queen City Opera), Peggy Shalimar a Fox The Little Prince (Cincinnati Chamber Opera). 

Gwaith diweddar a’r dyfodol: Isolier Le Comte Ory (Lyric Opera Chicago), Alisa Lucia di Lammermoor a Kate Pinkerton Madama Butterfly (Cincinnati Opera).