Cwrdd â WNO

Laura Lolita Perešivana

Mae’r soprano Latfiaidd-Wcránaidd Laura Lolita Perešivana yn un o sêr y dyfodol ar y llwyfan rhyngwladol. Cychwynnodd ar ei thaith operatig yn bedair ar bymtheg, yn dirprwyo rhan Lauretta yn Gianni Schicchi yn Opera Cenedlaethol Latfia, ac astudiodd yn y Royal Academy of Music ac yn y Guildhall School of Music and Drama.

Ers ymuno â Rhaglen Artistiaid Ifanc La Scala yn 2023, mae Laura wedi perfformio am y tro cyntaf ar y prif lwyfan yn Simon Boccanegra. Mae hefyd wedi ymddangos fel Rosa The little sweep, Elena Il cappello di paglia di Firenze, a Modistin Der Rosenkavalier, ac wedi dirprwyo rhan Alice Ford Falstaff.

Fel Artist Ifanc yn y National Opera Studio, ymddangosodd Laura ar lwyfannau WNO, Scottish Opera, ENO ac Opera North mewn rhannau megis Fiordiligi Così fan tutte, Thérèse Les Mamelles de Tirésias, Fiorilla Il turco in Italia, Marie La fille du régiment a Marie Wozzeck.

Gan ennill gwobrau’n rheolaidd, mae Laura wedi derbyn yr Ail Wobr a Gwobr y Gynulleidfa yng Nghystadleuaeth Ganu Ryngwladol Handel, yr Ail Wobr yn y Gystadleuaeth Vincerò yn Napoli, Gwobr Leo Nucci yng Nghystadleuaeth Magda Olivero ym Milan, yr Ail Wobr yng Ngwobrau Kathleen Ferrier, y Bedwaredd Wobr yng Nghystadleuaeth Veronica Dunne yn Nulyn, Gwobr y Tywysog yn Llundain, a Gwobr Arbennig am ‘fynegiant cerddorol dwys’ yng Nghystadleuaeth Moniuszko.

Yn Nhymor 25/26, mae Laura yn dychwelyd i’r Teatro alla Scala i ganu Clotilde yn Norma ac yn chwarae’r brif ran yn Anna A., opera newydd gan Silvia Colasanti.