Cwrdd â WNO

Laurence Cole

Bass

Astudiodd Laurence yn Birmingham Conservatoire a bu’n gweithio i’r BBC fel negodwr cytundebau am lawer o flynyddoedd. Cyn ymuno â WNO, roedd Laurence yn canu i EnglishTouring Opera ac Opera Holland Park. Ymhlith uchafbwyntiau personol Laurence gyda WNO hyd yma y mae perfformio dwywaith ym Mhalas Buckingham i Dywysog Cymru, chwarae rhan Sarastro The Magic Flute, a pherfformio a dirprwyo ar gyfer rhan yn ein cynhyrchiad diweddar o Der Rosenkavalier.

Gwaith diweddar: Mochyn Daear The Cunning Little Vixen, Yr Ail Ddyn Arfog The Magic Flute, Valet / Gavrila / Matveyev War and Peace, Gwas Flora La traviata (WNO)